Tegwch i Ynni
Mae’r cynnydd mewn biliau ynni dros y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio’n arw ar aelwydydd ledled y wlad, trwy godiadau yn y cap ar brisiau. Mae’n amlwg fod y farchnad ynni a breifateiddiwyd wedi methu.
Does dim rheswm da pam y dylai aelwydydd yng Nghymru, sy’n cynhyrchu mwy o ynni na’r hyn a ddefnyddir, fod â thaliadau sefydlog uwch na’r rhai yn Lloegr. Buasem am ostwng y taliadau hyn, gan arbed arian i bob aelwyd.
Rydym am weld cyflwyno Tariff Cymdeithasol am Ynni. Er bod disgwyl i brisiau ddisgyn yn ystod yr haf, pan nad oes cymaint o ynni’n cael ei ddefnyddio, rhagwelir mai codi a wnânt eto yn yr hydref a’r gaeaf.
Byddai Plaid Cymru yn datganoli cyfrifoldebau Ofgem i reoleiddio’r ffordd y mae gridiau ynni system-gyfan a marchnadoedd sy’n gwasanaethu Cymru yn cael eu dylunio, ac ar yr un pryd yn asio gyda safonau’r DG, Ewropeaidd a byd-eang sy’n dod i’r amlwg.
Fel rhan o’r gwaith hwn, buasem yn sefydlu cwmni systemau ynni Cymreig.
Yr ydym o blaid cynllun tymor-hir i ôl-ffitio eiddo sy’n bodoli eisoes er mwyn eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon, gan leihau costau ac allyriadau carbon. Bydd angen cefnogaeth y llywodraeth i hyn, yn enwedig tra bo aelwydydd mewn amgylchiadau economaidd mor heriol, a bydd angen ymrwymiad i ddatblygu gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau i gyflwyno’r rhaglen waith hon ledled y wlad.