Cartrefi Mwy Gwyrdd
Mae Plaid yn credu dylai bob cartref, swyddfa, ac adeilad cyhoeddus y lefel uchaf o effeithlonrwydd ynni
Tai Newydd
Byddwn ni’n cynllunio tai mewn ffordd a fydd yn caniatáu trosglwyddiad llyfn i dechnolegau newydd. Byddwn ni’n mynd ati i gyflwyno tai ynni-bositif sy’n gallu allforio ynni dros ben i’r grid trydan.
Wrth gynllunio cartrefi newydd, byddwn ni’n gwahardd y defnydd o ynni tanwydd ffosil, a bydd angen i bob tŷ newydd fod yn hynod ynni effeithlon erbyn.
Ôl-osod
Byddwn ni’n creu cynllun seilwaith effeithlonrwydd ynni hirdymor i ôl-osod stoc dai gyfan Cymru i safonau amgylcheddol uwch yn ystod y 30 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn cyfrannu at roi diwedd ar dlodi tanwydd a’r ‘marwolaethau ychwanegol’ cysylltiedig yn y gaeaf.
Er mwyn cyrraedd ein targed o ôl-osod pob cartref erbyn 2050, bydd y rhaglen hon yn darparu arbedion effeithlonrwydd o 20% ar draws stoc ddomestig Cymru.
Gwresogi â thrydan a phympiau gwres fydd ein blaenoriaeth, ac felly byddwn ni’n datblygu rhaglen sylweddol o osod pympiau gwres, gan flaenoriaethu cartrefi nad ydynt ar y grid. Bydd pob cartref yn cael cynnig archwiliad ynni am ddim ac argymhellion ar gynllun trosi.