Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol

Does dim rhwydwaith rheilffyrdd cynhwysfawr yn cysylltu gwahanol rannau o Gymru. Mae’n rhaid mynd drwy Loegr i wneud taith o’r gogledd i’r de, ac nid yw’r rheilffyrdd mewnol wedi’u cysylltu â’i gilydd.

Un o’r prif resymau dros hyn yw’r ffaith nad yw’r cyfrifoldeb dros reilffyrdd wedi’i ddatganoli’n llawn i Gymru, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Ers 2018, Cymru sydd wedi bod â’r cyfrifoldeb dros y brif fasnachfraint rheilffyrdd ar gyfer gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, ond nid y traciau rheilffordd na seilwaith arall. Mae hyn yn golygu y caiff penderfyniadau ar seilwaith rheilffyrdd Cymru eu gwneud gan Network Rail ar sail Cymru-a- Lloegr, ac yn ddieithriad mae Cymru’n colli allan wrth i ardaloedd mwy poblog yn Lloegr gael blaenoriaeth.

Byddwn ni’n ceisio datganoli llawn, gyda chyllid digonol, ar gyfer holl wasanaethau rheilffordd Cymru.

Trafnidiaeth: darllen mwy