Teithio ar Fysiau am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn darparu teithio ar fysiau am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ac yn cadw pasys bws am ddim i bobl dros 60 oed.

Mae canlyniadau economaidd Covid-19 yn cwympo’n anghymesur ar ein pobl ifanc. Bydd cludiant am ddim, gyda cherdyn clyfar, yn helpu i oresgyn rhwystrau rhag addysg, hyfforddiant, a chyfleoedd gwaith.

Bydd cludiant am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar wasanaethau a gaiff eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru, yn gwreiddio patrwm oes o’u defnyddio ac yn cyfrannu at nodau amgylchedd a newid hinsawdd Cymru. Bydd cynnydd mewn defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn lleihau tagfeydd a llygredd traffig. Bydd hefyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd llwybrau bysiau lleol a hyfywedd llawer o gymunedau cefn gwlad.

Trafnidiaeth: darllen mwy