Trafnidiaeth Cymru

Ar ôl i ni sicrhau datganoli ar gyfer yr holl wasanaethau rheilffordd, byddwn ni’n rhoi cyfrifoldeb i Drafnidiaeth Cymru greu rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gyfan, gan gysylltu’r gogledd a’r de a galluogi traffig trenau rhwng y canolfannau â phoblogaethau mawr. Bydd y rhwydwaith craidd hwn yn cynnwys:

  • Prif leiniau’r gogledd a’r de.
  • Lein ganolog Cymru, yn cysylltu Abertawe, Llanelli a’r Amwythig.
  • Lein Cambria, yn cysylltu Aberystwyth a’r Amwythig.
  • Lein newydd Arfordir y Gorllewin, yn cysylltu Caerfyrddin â Bangor ac ymlaen at Amlwch.
  • Metros ar gyfer y de-ddwyrain, y gogledd ddwyrain, Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol.

Bydd y rhwydwaith hwn yn cefnogi datblygiad ar sail trafnidiaeth ar hyd ei lwybr, wedi’i gyfrifo i wella datblygiad economaidd yn y ffordd fwyaf cynaliadwy a chyfrifol o ran yr hinsawdd.

Lladrad Trên Mawr (Cymru)

Mae angen datganoli seilwaith y rheilffyrdd, ynghyd â gweithrediadau, yn llawn i Gymru. Bydd hyn yn rhoi hawl i Gymru gael cyllid cyfwerth â chynlluniau fel rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.

Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, dydyn ni ddim yn rheoli seilwaith ein rheilffyrdd, sy’n golygu nad ydyn ni’n cael dim iawndal am brosiectau drudfawr fel HS2, sydd o fudd i Loegr yn unig, ac yn yr achos hwn, sy’n niweidiol i economi Cymru. O dan fformiwla Barnett, bydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon hawl i gyfran o gostau HS2. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru’n colli allan ar £250 miliwn y flwyddyn, tra bydd yr Alban yn elwa o £350 miliwn. Dros oes y prosiect, mae’n golygu £11 biliwn i’r Alban, ond dim byd i Gymru.

Bydd Trafnidiaeth Cymru’n gyfrifol am y canlynol:

  • Paratoi cynllun trafnidiaeth cenedlaethol newydd yn ystod blwyddyn gyntaf y llywodraeth, ar gyfer pob ffurf o deithio, gyda phrosiectau wedi’u rhestru yn ôl blaenoriaeth.
  • Eitemeiddio rhaglen fuddsoddi deng mlynedd ar gyfer gweithredu’r cynllun, mewn partneriaeth â Ffyniant Cymru a Banc Datblygu Cymru ar ôl i’w gylch gwaith gael ei ehangu i gynnwys prosiectau seilwaith.
  • Darparu amcanion strategol, gan gynnwys:
    1. Lleihau amseroedd teithiau o Gaerdydd i Abertawe, i 45 munud i ddechrau, ac yna i hanner awr.
    2. Gwella amseroedd teithiau rhwng Bangor a Chaerdydd.
    3. Agor coridor rheilffordd newydd gan ddefnyddio Lein Ardal Abertawe i ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng y gorllewin a’r canolbarth a Chaerdydd.
  • Goruchwylio’r gwaith o ddarparu’r Metro ar gyfer y de-ddwyrain, gan weithredu ar y cyd ag Awdurdod Datblygu’r Cymoedd ar ôl ei sefydlu, a datblygu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth Metro ar gyfer Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol.
  • Llunio Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y gogledd-ddwyrain, a fydd yn nodi cyfleoedd ar gyfer Datblygiad ar sail Trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith Metro arfaethedig.
  • Datblygu cynigion ar gyfer cynllun metro yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys gwasanaeth ‘trên-tramwy’ rhwng Amlwch a Dolgellau, ac ymestyn lein Conwy i’r Bala a Thrawsfynydd.
  • Rheoli gwasanaethau bysiau ledled Cymru.
  • Cyfuno rheilffyrdd â gwasanaeth bysiau rheoledig, er mwyn sicrhau y darperir opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus i bob rhan o Gymru, gan gynnwys pentrefi a threfi bach y mae eu cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus yn achlysurol ar hyn o bryd.
  • Rheoli rhwydwaith gwasanaeth bysiau cenedlaethol TrawsCymru a ariennir gan y Llywodraeth, a’i integreiddio gyda’r rhwydwaith rheilffordd cenedlaethol a weithredir gan Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig sydd dan reolaeth y Llywodraeth a gweithredwyr eraill sydd wedi’u masnachfreinio yn Lloegr.
  • Sicrhau nad yw cyfraddau tocynnau a darpariaeth yn blaenoriaethu patrymau teithio a gweithio ‘traddodiadol’ yn unig, a hyfforddi darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ar aflonyddu rhywiol mewn gofodau cyhoeddus.
  • Cyflwyno gwasanaeth tocynnau Cerdyn Clyfar cenedlaethol ar gyfer bysiau a threnau er hwylustod i deithwyr. Dylai gostyngiadau aml-daith fod o fudd i weithwyr rhan-amser yn ogystal â thocynnau tymor sydd wedi’u cynllunio ar gyfer wythnos weithio pum diwrnod.
  • Llunio Cynllun Teithio Llesol i Gymru, gyda tharged o gynnydd o 50 y cant ar gyfer teithio ar feic ymhlith cymudwyr. Bydd gofod digonol yn cael ei sicrhau ar bob cerbyd trên newydd, er mwyn i gymudo ar feic a thrên ddod yn opsiwn ymarferol ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru.
  • Byddwn ni’n rhoi cyfrifoldeb i Drafnidiaeth Cymru gynhyrchu astudiaethau dichonoldeb manwl ar nifer o brosiectau allweddol, gan gynnwys:
    1. Ailagor lein Cwm Aman i deithwyr.
    2. Ymestyn lein Rhondda Fawr i Dynewydd.
    3. Ailagor y lein i Amlwch.
    4. Cysylltu Blaenau Ffestiniog â Thrawsfynydd.
    5. Cysylltu Llangollen â Wrecsam.
    6. Ailagor Tramffordd y Mwmbwls.
    7. Cysylltu Ystrad Mynach â Bedlinog.

Trafnidiaeth: darllen mwy