Maes Awyr Caerdydd

Nid yw ymestyn teithio awyr yn ffurfio rhan bwysig o’n polisi trafnidiaeth cyffredinol oherwydd ei gyfraniad at gynhesu byd-eang. Serch hynny, rydyn ni’n cydnabod bod teithio awyr yn elfen hanfodol o gyfathrebu rhyngwladol a’r diwydiant twristiaeth. Felly, mae’n rhaid i gynnal maes awyr rhyngwladol hyfyw fod yn rhan o seilwaith trafnidiaeth cyffredinol y wlad. Ar yr un pryd, byddwn ni:

  • Yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi treth ar danwydd awyrennau a thynnu ei ryddhad treth presennol. Ar sail pro rata, byddai hyn yn codi tua £50-70 miliwn y flwyddyn i Gymru.
  • Yn hyrwyddo symud at fiodanwydd a thanwydd synthetig ar gyfer awyrennau, ac yn rhoi pwysau i orfodi hynny ar lefel ryngwladol erbyn 2030.
  • Yn lleihau effaith allyriadau o awyrennau drwy greu cwmni gwrthbwyso hinsawdd cenedlaethol ym maes awyr Caerdydd. Bydd hyn yn defnyddio ystod o dechnegau, gan gynnwys cipio aer unionyrchol, fel rhan o gynllun gwrthbwyso carbon archwiliadwy. Dylai pob taith awyr gan y sector cyhoeddus gael ei gwrthbwyso yn ôl y gyfraith.

Fel pob maes awyr, mae maes awyr Caerdydd wedi cael ei daro’n ddrwg gan effaith Covid-19, a hynny yn erbyn hanes o lywodraethau olynol y Deyrnas Unedig yn canoli teithio awyr i Heathrow, sy’n golygu siwrneiau hir er mwyn defnyddio’r cyfleuster hwnnw. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer maes awyr Caerdydd yn cynnwys:

  • Pwyso i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru.
  • Tyfu cyfran Maes Awyr Caerdydd mewn busnesau awyrennau presennol.
  • Integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i’r maes awyr yn rhan o’r Metro.
  • Manteisio ar gyfleoedd economaidd y clwstwr cynhaliaeth, atgyweirio ac ailwampio ehangach yn y rhanbarth.
  • Cynnal Gwasanaeth Awyr mewnol rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, a sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus addas i’r defnyddiwr ar gael yn y ddau safle.

Trafnidiaeth: darllen mwy