Cysylltedd Digidol

Byddwn ni’n datblygu Strategaeth Cysylltedd Genedlaethol, gan gyfuno ein cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus werdd integredig gyda’n cynlluniau i wella band llydan.

Byddwn ni’n darparu band llydan gigabit cyflym iawn i bob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2026.

Bydd technoleg ddigidol well yn annog mwy o weithio gartref, newid sylweddol i batrymau teithio sy’n gallu lleihau allyriadau carbon, tagfeydd, a straen mewn llawer o achosion. Tan nawr, nid ydym wedi manteisio digon ar y potensial hwn. Serch hynny, mae cyfnodau clo Covid-19 wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y bobl sy’n gweithio gartref, ac wedi datgelu i lawer o gyflogwyr a gweithwyr beth yw’r manteision o ran amser ac arian.

Byddwn ni’n buddsoddi mewn rhaglen sylweddol i ddarparu hybiau gweithio o bell cyflym iawn, mewn cymunedau llai llewyrchus i ddechrau, i wasanaethu pobl nad yw eu hamgylchedd cartref neu eu hoffer yn addas ar gyfer gweithio o bell, ac ar gyfer cwmnïau sydd heb ddigon o ofod i’w holl weithwyr allu cadw pellter cymdeithasol.

Byddwn ni’n cymell llywodraeth leol i ymrwymo i brynu gwasanaethau band llydan ffibr llawn, fel ffordd o ddarparu sicrwydd o ran galw ac i annog buddsoddiad.

Byddwn ni’n datblygu cwmni rhwydwaith band llydan cenedlaethol yng Nghymru sy’n gydfuddiannol neu dan berchnogaeth y cyhoedd i fynd i’r afael â chysylltedd mewn rhannau o Gymru.

Byddwn ni’n newid y ddeddf gynllunio fel bod pob adeilad newydd yn cael eu hadeiladu â gallu band llydan gigabit o’r dechrau un.

Byddwn ni’n sicrhau mynediad gwell ar gyfer adeiladwyr ffibr at seilwaith presennol, ac yn newid y rheolau o ran caniatâd cynllunio, mynediad at dir, a defnydd o’r dechnoleg gloddio ddiweddaraf i gyflymu’r gwaith o’i gyflwyno.

Trafnidiaeth: darllen mwy