Bysiau

Byddwn ni’n rhoi grym i awdurdodau lleol sefydlu eu cwmnïau bysiau ardal eu hunain. Bydd Trafnidiaeth Cymru’n sefydlu gweithredwr bysiau dan berchnogaeth y cyhoedd, a fydd yn barod i weithredu mewn unrhyw leoliad lle nad oes gweithredwyr masnachol yn cynnig contractau o ansawdd da.

Byddwn ni’n cyflymu datblygiad Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan amlinellu’n glir beth yw eu diben, eu trefniadau llywodraethu ac ariannol, ynghyd â’u cydberthynas gyda Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Er mwyn hwyluso cydweithio rhwng gwasanaethau, byddwn ni’n dod â gwaith comisiynu bysiau, tacsis a bysiau ynghyd, gan uno’r cyllidebau ar gyfer trafnidiaeth ysgolion, Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau, a ffioedd consesiwn.

Rydym yn cefnogi ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau a byddwn yn archwilio opsiynau i gyflwyno’r ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i ganiatáu datblygu system masnachfreinio bysiau yng Nghymru.

Yn ogystal, byddwn ni:

  • Yn ehangu gwasanaeth TrawsCymru fel gwasanaeth bysiau cenedlaethol sy’n gwasanaethu trefi mawr ledled y wlad, gan flaenoriaethu’r cymunedau hynny sydd heb gysylltiadau trên rheolaidd.
  • Yn cyflwyno gwasanaeth gwybodaeth mwy integredig ar gyfer teithwyr ag anableddau.
  • Yn sefydlu Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gwella Gorsafoedd Bws i adlewyrchu’r biblinell fuddsoddi ar gyfer trenau.

Trafnidiaeth: darllen mwy