Cymuned ryng-gysylltiedig o gymunedau

Mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru fel cymuned ryng-gysylltiedig o gymunedau gwydn, llewyrchus, iach, ac amgylcheddol gadarn. Bydd gwelliannau sylweddol i drafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn ein cynlluniau adfywio ar gyfer Arfor a’r Cymoedd. Bydd y rhain yn cysylltu ein rhanbarthau a’n cymunedau sydd wedi’u datgysylltu, ac yn cynyddu eu potensial economaidd.

Y tu hwnt i gwblhau prosiectau ffordd sydd eisoes yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru: Llif Prosiectau, ein nod yw creu system trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda mwy o ddibyniaeth ar ffyrdd ecogyfeillgar o deithio. Byddwn ni’n datblygu amserlen genedlaethol, gan integreiddio gwasanaethau trên a bysiau, gyda safonau cenedlaethol ar gyfer amlder gwasanaethau, gan wneud teithio â thrafnidiaeth gyhoeddus yn bosib yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru.

Er mwyn symleiddio a byrhau’r broses o wneud penderfyniadau trafnidiaeth mawr, byddwn ni’n cyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth a Chynllun Ariannu Trafnidiaeth Cenedlaethol, a fydd yn adlewyrchu ein blaenoriaethau newydd, erbyn diwedd 2021. Byddwn ni’n ceisio’r grymoedd perthnasol i gyflwyno ardoll cyflogres trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ariannu trafnidiaeth gyhoeddus ecogyfeillgar.

Mae Plaid Cymru’n cefnogi ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau, a byddwn ni’n cyflwyno’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i allu datblygu system fasnachfreinio bysiau yng Nghymru.

Byddwn ni’n ceisio datganoli grym dros dreth ffordd a threth danwydd a’r Ardoll Cerbydau Nwyddau Trwm fel bod modd i ni greu Ecoardoll newydd yn seiliedig ar ddefnydd o ffordd, argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus yn lleol, ac allyriadau. Byddai hyn yn fwy amgylcheddol effeithiol a chymdeithasol gyfiawn.

Trafnidiaeth: darllen mwy