Teithio llesol a chymdogaethau 20 munud

Nid yn unig mae cerdded a beicio’n fwy amgylcheddol gynaliadwy na thrafnidiaeth modur, ond gallant hefyd fod yn rhan bwysig o fyw’n iach.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n gweithio tuag at greu cymdogaethau 20 munud ym mhob un o’n trefi a’n dinasoedd, gan ddarparu mynediad cyfleus a diogel i gerddwyr i’r llefydd y mae angen mynd iddyn nhw a’r gwasanaethau mae pobl yn eu defnyddio bron bob dydd: trafnidiaeth gyhoeddus, siopa, ysgolion, parciau, a gweithgareddau cymdeithasol.

Byddwn ni:

  • Yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osod targedau uchelgeisiol ar gyfer newid moddol, gan gynnwys cynyddu’r ddarpariaeth o lwybrau beicio yn sylweddol.
  • Yn gosod targed cenedlaethol y bydd 10 y cant o’r holl deithiau’n cael eu gwneud ar feic neu sgwter erbyn 2030.
  • Yn arddangos y potensial ar gyfer llwybrau beicio pellter hir ar hyd rhwydwaith ffyrdd strategol a phriffyrdd eraill sy’n ymestyn 15km o ganolfannau rhanbarthol sy’n denu traffig cymudwyr sylweddol, er enghraifft Aberystwyth, Bangor, Merthyr Tudful a Phontypridd.
  • Yn creu cymhellion i annog defnydd o e-feiciau, a sefydlu strategaeth ddiwydiannol i hyrwyddo’r gwaith o’u gweithgynhyrchu yng Nghymru.
  • Yn sefydlu dinas arddangos i ddangos beth yw potensial beiciau e-cargo o ran disodli faniau a lleihau cerbydau nwyddau trwm.
  • Yn darparu cyllid i Barc Rhanbarthol y Cymoedd ymestyn, cynnal a marchnata ei rwydwaith llwybr beicio sylweddol, a sicrhau bod twneli’r Rhondda ac Abernant yn dod yn atyniadau twristaidd pwysig. Byddwn ni hefyd yn ymchwilio i ddichonoldeb creu cyfleuster tebyg ar hyd y leiniau rheilffyrdd na chânt eu defnyddio yn yr hen faes glo yn y gogledd-ddwyrain.
  • Yn gwneud 20mya yn gyflymder diofyn ym mhob ardal adeiledig.
  • Yn cynnal ymchwiliad i fesurau y dylid eu cymryd i fynd i’r afael â’r 100 o farwolaethau a’r 1,000 o anafiadau difrifol sy’n digwydd bob blwyddyn o ganlyniad i ddamweiniau traffig yng Nghymru.
  • Yn sefydlu rhaglen i symud swyddfeydd y sector cyhoeddus i ganol trefi a dinasoedd ac i ffwrdd o ddatblygiadau y tu allan i drefi.

Trafnidiaeth: darllen mwy