Cydberthynas Cymru gyda’r Undeb Ewropeaidd

Ar ôl Brexit, mae’r rhagolygon y bydd y Deyrnas Unedig yn ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn y tymor canolig yn annhebygol. Serch hynny, byddwn ni’n dadlau’r achos dros y manteision, i Gymru a’r Deyrnas Unedig gyfan, o gael cysondeb rheoleiddiol agosach gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dyhead hirdymor Plaid Cymru yw y bydd Cymru annibynnol yn ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, yn amodol ar refferendwm yn y dyfodol ar ôl cael annibyniaeth. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n ceisio pob llwybr i ddwysáu ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd. Byddwn ni:

  • Yn sefydlu uned ganolog fel rhan o Swyddfa’r Cabinet i ymdrin â materion rhyngwladol, ac yn benodol i yrru polisi cryf a chyson ar gyfer ymgysylltu ag Ewrop.
  • Yn cryfhau presenoldeb Cymru ym Mrwsel drwy Dŷ Cymru.
  • Yn meithrin partneriaeth agos gydag Iwerddon, yn benodol drwy sefydlu swyddfa conswl Cymru yn Nulyn.
  • Yn adeiladu ar y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Gymru ar gyfer Dysgu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, drwy geisio ei chysoni â rhaglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd.
  • Yn datblygu partneriaethau presennol gyda chenhedloedd a rhanbarthau yn Ewrop, fel Llydaw, Gwlad y Basg, a Fflandrys, ac yn archwilio’r posibilrwydd o ychwanegu at eu nifer.
  • Yn cynnal ac yn datblygu ymgysylltiad Cymru gyda rhwydweithiau Ewropeaidd fel y rhai sy’n hyrwyddo gwaith Llywodraethau’r Economi Llesiant ac Amrywiaeth Ieithyddol.

Byddwn ni hefyd yn archwilio’r rhagolygon y gall Cymru annibynnol ddod yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop, gyda’r nod o ddod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Bydd y Comisiwn Cenedlaethol statudol y byddwn ni’n ei sefydlu i oruchwylio’r broses fydd yn arwain at refferendwm annibyniaeth yn cynnal archwiliad manwl o’r opsiwn hwn.

Cymru a'r Byd: darllen mwy