Ymgysylltu â Chymry ar Wasgar

Byddwn ni’n parhau â’r gwaith o ymgysylltu â Chymry ar wasgar ledled y byd, ym meysydd rhwydweithiau busnes, menter Enwogion a Chenhadon Cymru, a datblygu cysylltiadau byd-eang gyda myfyrwyr rhyngwladol a staff sydd wedi astudio a gweithio ym mhrifysgolion Cymru.

Yn ogystal, byddwn ni’n sefydlu prosiect peilot i brofi dichonoldeb olrhain a chadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy’n gadael Cymru i fynd i addysg uwch neu gyflogaeth gychwynnol, i sicrhau eu bod yn gwybod am gyfleoedd parhaus adref ac i greu cronfa ddata o ddoniau ar wasgar.

Cymru a'r Byd: darllen mwy