Cymru Fyd-eang

Bydd Plaid Cymru’n datblygu’r bartneriaeth Cymru Fyd-eang rhwng British Council Cymru, Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ymhellach. Yn benodol, byddwn ni’n parhau i gefnogi’r pum prosiect canlynol:

1. Affrica Is-Sahara

Byddwn ni’n gwella rhaglen Cymru ac Affrica drwy ymestyn cefnogaeth i’r grwpiau o Gymru sydd eisoes yn gweithio mewn dros 25 o wledydd yn Affrica Is-Sahara, ac yn adeiladu ar y gwaith penodol sydd wedi’i gyflawni yn Lesotho a Dwyrain Uganda. Yng Nghymru, byddwn ni’n tyfu partneriaeth Hub Cymru Wales sydd wedi tynnu sefydliadau ynghyd fel Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Affrica, y Panel Cynghori Is-Sahara, a Masnach Deg Cymru.

2. Gweithredu ar Goedwigoedd

Er mai coedwigoedd yw ysgyfaint ein planed, maen nhw’n cael eu difrodi ledled y byd ar gyfradd frawychus oherwydd ein galw am olew palmwydd, soi, cig eidion, a nwyddau amaethyddol eraill. Mae gan Gymru rôl yn gwrthsefyll y duedd hon. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Parhau i weithio gyda phrosiect Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mynydd Elgon, a phartneriaid eraill yn Uganda.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu i roi diwedd ar fewnforio nwyddau sydd wedi achosi datgoedwigo.
  • Cyflwyno targedau dim datgoedwigo ym mholisi caffael Cymru fel rhan o’n trosglwyddiad at ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.
  • Darparu cymorth i wledydd sy’n cynhyrchu er mwyn sicrhau nad yw cadwyni cyflenwi yn cyfrannu at ddatgoedwigo a’u bod yn gynaliadwy, yn gynhwysol, ac yn deg i ffermwyr, cymunedau coedwigoedd, a Phobl Frodorol.

3. Masnach Deg

Byddwn ni’n dod o hyd i ffyrdd o ymestyn mentrau fel Coffi 2020, sy’n prynu coffi gan ffermwyr sy’n rhan o brosiect Coed Mbale, a Siopa Teg gan Fair Do, sydd hefyd yn mewnforio coffi Masnach Deg ac Organig o Uganda.

4. Grymuso Menywod

Byddwn ni’n bwrw ymlaen gyda’r prosiect peilot rhywedd a chydraddoldeb sydd wedi’i bod yn digwydd yn Uganda a Lesotho, gyda’r nod o leihau camdriniaeth ddomestig, meithrin busnesau a sgiliau, a datblygu dysgu rhwng cyfoedion.

5. Trosglwyddo Iaith

Byddwn ni’n dwysáu arweinyddiaeth fydeang Cymru ym maes trosglwyddo iaith, ac yn gweithio gyda gwledydd a grwpiau iaith fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol UNESCO 2022-32.

Cymru a'r Byd: darllen mwy