Heddwch a Diogelwch

Bydd Llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn gweithio i atal adnewyddu arfau dinistr torfol, fel Trident, ac yn gwrthod caniatáu iddyn nhw gael eu lleoli yng Nghymru nac yn nyfroedd Cymru.

Rydyn ni’n croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Academi i sicrhau bod heddwch yn ganolog yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, a bod Cymru’n gwneud cyfraniad tuag at ymchwil ac arfer a gaiff ei gydnabod yn fyd-eang.

Cymru a'r Byd: darllen mwy