Cysylltiadau Rhyngwladol
Bydd Plaid Cymru’n datblygu strategaeth ryngwladol i Gymru yn seiliedig ar hyrwyddo ein gwerthoedd, gan gynnwys democratiaeth, datblygu cynaliadwy, a chyfleoedd i bawb waeth beth yw eu rhywedd, hil, neu nodweddion gwarchodedig eraill.
Mewn ymateb i’r newid hinsawdd, a gan adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, byddwn ni’n gweithredu ar ymrwymiad Cymru i sefydlu ei hun fel cenedl gyfrifol yn fyd-eang. Yn benodol, byddwn ni’n newid y targed i gyrraedd dim allyriadau carbon o 2050 i 2035, gan ddangos ein hymrwymiad i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r British Council i hyrwyddo Cymru a diwylliant Cymru’n well ar draws y byd, ac yn gweithio’n agos gyda sefydliadau datblygu rhyngwladol i rymuso cymunedau ar draws y de byd-eang, gan gefnogi a datblygu cysylltiadau a rhaglenni cyfnewid presennol gydag Affrica Is-Sahara a chodi ymwybyddiaeth yng Nghymru.
Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda llywodraethau is-wladwriaethol sy’n rhannu nodweddion cyffredin â Chymru, fel dwyieithrwydd, a byddwn ni’n parhau i ddatblygu cysylltiadau gyda Thalaith Chubut yn yr Ariannin.
Byddwn ni’n ceisio aelodaeth gyswllt i Gymru yn UNESCO, y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, a’r Sefydliad Morol Rhyngwladol.
Byddwn ni’n sefydlu cydberthynas ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru fel man cychwyn ar gyfer datblygu strategaeth i annog mwy o gynrychiolaeth ddiplomyddol yng Nghymru, gan ddod â busnesau allweddol ynghyd, gan rannu nod o wella economi Cymru.
Mae’n hanfodol bod Cymru’n parhau i dyfu maint ei hymgysylltiad diwylliannol rhyngwladol, yn enwedig wrth ystyried effeithiau niweidiol Brexit ar ddiwylliant. Byddwn ni:
- Yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig iadfer, drwy brotocol i gytuniad y DU-UE, ryddid i symud heb fisa yn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â mynediad at raglenni Ewrop Greadigol.
- Yn cynnal cymorth ariannol cryf ar gyfer gwaith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.