Strategaeth Allforio

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dim ond 4,300 o 105,360 o fentrau Cymru fu’n allforio yn ystod 2018, gyda thua 80 y cant o’r rheini yn allforio i’r Undeb Ewropeaidd a 50 y cant i farchnadoedd nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd adain ryngwladol Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth datblygu economaidd newydd, yn datblygu strategaeth gyda’r nod o ehangu nifer y busnesau bach a chanolig sy’n rhan o allforio a nodi marchnadoedd byd-eang lle mae modd iddyn nhw sefydlu mantais gymharol. Bydd y strategaeth yn cynnwys:

  • Ehangu’r rhaglen Clystyrau Allforio sy’n darparu rhwydweithiau cymorth ar gyfer sectorau busnes allweddol.
  • Nodi marchnadoedd rhyngwladol allweddol a pharu’r rhain â busnesau o Gymru sydd â mantais allforio gref gymharol.
  • Meithrin capasiti allforio gydag ymgynghorwyr masnach rhyngwladol, gan ddarparu cymorth busnes un-i-un.
  • Ehangu rhwydwaith Cymru o swyddfeydd tramor gan ganolbwyntio ar ranbarthau’r Undeb Ewropeaidd lle rydyn ni eisoes wedi sefydlu cysylltiadau, gan gynnwys Llydaw, Gwlad y Basg, Catalwnia, Fflandrys, Baden Wurttemberg, Bafaria, a Gogledd Rhein Westphalia.

Cymru a'r Byd: darllen mwy