Bargen Werdd Gymreig Newydd
Cred Plaid Cymru fod angen i ni gadw’r gallu i gynhyrchu dur yng Nghymru. Yr ydym yn gwrthwynebu cynlluniau presennol Tata i gau eu ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot a’r effaith gaiff hyn ar swyddi a chymunedau yn ne-orllewin Cymru a thu hwnt. Dylai Llywodraeth y DG geisio gwladoli gwaith dur Port Talbot. Os na all wneud hyn, dylai Llywodraeth Cymru edrych i mewn i’r dewisiadau o brynu’r gwaith yn orfodol, tra bod dewisiadau o ran gwneud cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd - gan gynnwys trwy roi hydrogen gwyrdd yn lle glo - yn cael eu datblygu. Byddwn yn creu Bargen Werdd Gymreig Newydd.
Bydd hyn yn creu gwaith gwerth ei gael, ystyrlon a theg yn y sector gwyrdd a sero-net sydd yn egino ar hyn o bryd, ac y mae’n cynnwys dysgu sgiliau a chefnogi gweithwyr a phrentisiaid Cymru i mewn i’r sectorau hyn, gan gwrdd â’r angen sy’n gysylltiedig â’r newid demograffig yn y gweithlu gweithgynhyrchu a’r prinder sgiliau a nodwyd eisoes.
Fel rhan o’r symudiad tuag at sero-net, byddwn yn sefydlu Comisiwn Trosi Cyfiawn.