Carmen Smith

Dafydd Wigley

Y Farwnes Carmen Smith

Facebook Twitter Instagram  Westminster Parliament Website

 

Carmen ydw i, a dydw i ddim yn aelod traddodiadol o Dŷ'r Arglwyddi.

Dydi fy siwrne wleidyddol heb fod yn un gonfensiynol. Cefais fy magu ar stad cyngor yn Llanfaes, Ynys Môn. Gwelais a phrofais anghydraddoldebau wrth dyfu i fyny fel gofalwr ifanc i fy niweddar dad, a gwnaeth hynny fy arwain, yn ddamweiniol bron, at wleidyddiaeth. Dwi’n deall y frwydr y mae pobl ar hyd a lled Cymru yn ei hwynebu bob dydd.

Mae angen ysgytwad ar Dŷ’r Arglwyddi. Fel dynes ifanc o gefndir dosbarth gweithiol dwi’n gobeithio dod â phersbectif gwahanol, rhywbeth sydd dirfawr ei angen.

Am Carmen

Ganwyd Carmen yn Salisbury ac fe’i magwyd yn Llanfaes, Ynys Môn. Astudiodd yn lleol yn Ysgol David Hughes a Choleg Menai.

Aeth yn ei blaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Mynediad. Pan gafodd ei hethol yn Ddirprwy Lywydd UCM Cymru yn 2016 gadawodd y brifysgol i ymgymryd â’r swydd yn llawn amser. Safodd am y rôl gydag UCM Cymru i ymgyrchu dros wella'r byd addysg i fyfyrwyr sy'n ofalwyr. Llwyddodd i ddylanwadu ar newid polisi cenedlaethol yn y maes hwn.

Profiad ymgyrchu

Mae Carmen wedi bod yn ymgyrchu ar faterion sydd o bwys iddi ers bron i ddegawd. Yn eu plith mae materion sy’n bwysig bobl ifanc, ehangu mynediad i addysg, annibyniaeth, a mynd i’r afael â thlodi.

Mae wedi chwarae rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth – o’i chyfnod fel Dirprwy Lywydd UCM Cymru, i fod yn ymgeisydd Senedd Ewrop yn 23 oed. Yn fwy diweddar bu’n Bennaeth Staff Senedd Cymru i Blaid Cymru.

Ond ar ôl dod at wleidyddiaeth yn ifanc - mae hi wedi sylwi nad yw pobl ifanc, yn enwedig merched ifanc, yn cael eu cynrychioli ar goridorau grym. Mae Carmen eisiau newid hynny.

Ei phenodiad i Dŷ'r Arglwyddi

Mae Plaid Cymru yn un o ddwy blaid wleidyddol yn unig yn y DU sy’n cynnal proses ddemocrataidd ar gyfer penodi i Dŷ'r Arglwyddi. Enillodd Carmen enwebiad aelodau’r blaid ym mis Rhagfyr 2023.

Ym mis Chwefror 2024, cadarnhawyd Carmen fel enwebiad Plaid Cymru i Dŷ’r Arglwyddi gan Swyddfa’r Prif Weinidog. Ym mis Mawrth 2024 fe’i hurddwyd yn swyddogol fel y Farwnes Smith o Lanfaes a chymerodd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Pam fod Carmen eisiau bod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi?

Nid yw Carmen yn cefnogi bodolaeth Tŷ’r Arglwyddi fel siambr anetholedig. Ond tra bod Tŷ’r Arglwyddi yn bodoli ac yn parhau i greu deddfau sy’n effeithio ar bobl Cymru, yna mae’n rhaid inni fod yno i godi llais.

Mae angen ail-feddwl ein democratiaeth, a chreu model llawer mwy democrataidd, agored a modern.

Mae Carmen yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ac mae’n gobeithio bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu democratiaeth fodern sy’n gweithio i bobl Cymru.