Arweinydd Grŵp Plaid Cymru San Steffan
Portffolio: Cymru; Cyfiawnder; Swyddfa Gartref; Twrnai Cyffredinol; Swyddfa’r Cabinet; Amddiffyn
Etholwyd Liz Saville Roberts gyntaf yn 2015, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cadwodd y sedd yn etholiadau 2017, 2019, ac yn fwyaf diweddar 2024 gyda thros hanner y bleidlais.
Yn wreiddiol o Eltham yn ne Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain a gogledd Cymru ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg. Cyn ei hethol i San Steffan, roedd Liz yn Gynghorydd Sir Gwynedd rhwng 2004 a 2015 gan gynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn.
Yn 2017 apwyntiwyd Liz fel Arweinydd Seneddol Grŵp Plaid Cymru San Steffan a hi yw Llefarydd y Blaid ar y Swyddfa Gartref, Trafnidiaeth, Merched a Chydraddoldeb, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a Chyfiawnder. Fe'i penodwyd i'r Cyfyng Gyngor yn 2019.
Yn 2016 derbyniwyd Liz fel aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau marchogaeth a cherdded. Mae Liz yn byw ym Mhen Llŷn gyda’i gŵr Dewi ers 1993, ac mae ganddynt ddwy ferch, Lowri a Lisa.