Dafydd Wigley

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Twitter Gwefan San Steffan

Cafodd Dafydd Wigley ei eni yn Derby, Lloegr. Mynychodd Ysgol Ramadeg Caernarfon ac Ysgol Rydal cyn astudio ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion, a hyfforddi fel cyfrifydd. Gweithiodd i'r cwmni Hoover fel Rheolydd Ariannol cyn iddo ddod yn Aelod Seneddol yn 1974.

Daeth Dafydd Wigley yn Llywydd ar Blaid Cymru yn gyntaf yn 1981. Fe'i etholwyd i gynrychioli etholaeth Caernarfon yn etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999, ble arweiniodd y Blaid i ganlyniad arbennig yn yr etholiad.

Ar ôl gyrfa hir yn gwasanaethu Cymru ar bob lefel wleidyddol, mae Dafydd Wigley yn parhau yn wleidydd sydd yn hawlio parch enfawr trwy Gymru, ac yn parhau i weithio'n ddiflino dros ein gwlad.