Etholaeth: Ceredigion Preseli

Ben Lake AS

Portffolio: Trysorlys; Swyddfa Dramor a Chymanwlad; Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg

Etholwyd Ben Lake yn AS dros Geredigion ym Mehefin 2017; cafodd ei ailethol yn 2019, ac yn 2024 dros Geredigion Preseli.

Mae Ben wedi ennill enw da am fod yn ymgyrchydd lleol egnïol ers iddo gael ei ethol gyntaf. Mae'n fodlon gweithio ar draws ffiniau pleidiol i gyflawni dros ei etholaeth. Cafodd ei enwi’n ‘Politician to Watch’ yng ngwobrau ITV yn 2017, ac yn 2019 fe’i enwebwyd yn AS y Flwyddyn.

Mae wedi ymladd yn barhaus ar ran cymunedau Ceredigion ac wedi bod yn effeithiol yn lleol ac yn genedlaethol trwy gydweithio gyda grwpiau lleol ac ymgyrchu ar eu rhan yn San Steffan; mae tipyn wedi'i gyflawni ers cael ei ethol - sicrhau cyllid ar gyfer codiadau ym mhensiynau athrawon, £55 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, gwrthdroi toriadau Barclays i fancio gwledig, a sicrhau buddsoddiad i wella gwasanaeth ffôn symudol mewn ardaloedd heb signal ffôn.