Swyddi Gwag


Swydd Wag: Ymchwilydd – Grŵp San Steffan Plaid Cymru

Diben y swydd: Mae tîm Plaid Cymru yn San Steffan yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a gweithgar i gefnogi ein Haelodau gydag ymchwil ar faterion polisi a helpu gyda dyletswyddau seneddol. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda gwaith achos seiliedig ar bolisi a drafftio ymatebion i ymholiadau polisi gan etholwyr, a rhoi cefnogaeth seneddol gyffredinol i Aelodau a staff.

Lleoliad: Llundain

Cyflog: £26,775 - £41,739

Dyddiad cau: 3 Hydref 2024

Dyddiad ychwanegu: 19 Medi 2024

Manyleb swydd

Er mwyn ceisio am y swydd hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at [email protected]

[i'r brig]


Swydd Wag: Swyddog cyfathrebu – Grŵp San Steffan Plaid Cymru

Diben y swydd: Mae tîm San Steffan Plaid Cymru yn chwilio am unigolyn deinamig a chreadigol i helpu i ehangu gwaith seneddol ein Haelodau. Dyma gyfle cyffrous i rywun sy’n frwd am y cyfryngau a chyfathrebu i chwarae rhan allweddol i hyrwyddo gweithgareddau ein ASau ar draws llwyfannau amrywiol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhywun sy’n gweld ei g/waith, yn fedrus wrth greu cynnwys sydd yn denu, ac yn gallu gweithio mewn awyrgylch wleidyddol fywiog a phrysur.

Lleoliad: Llundain

Cyflog: £26,775 - £41,739

Dyddiad cau: 3 Hydref 2024

Dyddiad ychwanegu: 19 Medi 2024

Manyleb swydd

Er mwyn ceisio am y swydd hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at [email protected]

[i'r brig]


Swydd Wag: Gweithiwr achos – Liz Saville Roberts

Diben y swydd: Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â’i swyddfa yn yr etholaeth i weithio fel rhan o dîm i ymateb i waith achos a chefnogi etholwyr.

Lleoliad: Dolgellau neu Gaernarfon

Cyflog: £22,605 - £36,744 pro rata

Oriau: i'w trafod

Dyddiad cau: 22 Hydref 2024

Dyddiad cyfweliad: 7 Tachwedd 2024

Manyleb swydd

[i'r brig]


Swydd Wag: Uwch weithiwr achos – Liz Saville Roberts

Diben y swydd: Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â’i swyddfa yn yr etholaeth i arwain ar faterion gwaith achos a chefnogi etholwyr.

Lleoliad: Dolgellau neu Gaernarfon

Cyflog: £29,727 - £46,381 pro rata

Oriau: i'w trafod

Dyddiad cau: 22 Hydref 2024

Dyddiad cyfweliad: 7 Tachwedd 2024

Manyleb swydd

[i'r brig]


Rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd. Cliciwch yma er mwyn gwirfoddoli.