Swydd wag: Swyddog Polisi
Teitl: Swyddog Polisi
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru - Tŷ Gwynfor, Caerdydd
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa.Math o gytundeb: Parhaol, Llawn amser
Hyblyg - Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau eraill o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno ymgymryd â’r rôl hon yn rhan amser neu’n rhannu swydd.Rheolwr Llinell: Pennaeth Polisi
Cyflog: Band 3 (£23,008 - £29,483)
Penodir fel arfer ar ben isaf y raddfa.Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Mae Plaid Cymru yn cynnig system o weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gyda dyddiau braint ychwanegol.
Pwrpas y Rôl
Cynorthwyo gyda chydlynu gweithgareddau polisi ac ymchwil Plaid Cymru, a chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflwyno a’i gyfathrebu’n effeithiol i ystod eang o gynulleidfaoedd.
Prif Gyfrifoldebau
- Cefnogi trefnu agweddau gwleidyddol digwyddiadau’r Blaid, y gellir eu cynnal yn rhithwir ac yn gorfforol, yn enwedig Cynadleddau
- Gweinyddu'r broses o gyflwyno cynigion a gwelliannau i ddigwyddiadau llunio polisi'r Blaid megis y Cyngor Cenedlaethol a'r Gynhadledd Flynyddol
- Darparu cefnogaeth i weithgareddau a phenderfyniadau'r Fforwm Polisi a'r Pwyllgor Llywio
- Cefnogi datblygiad maniffestos y Blaid
- Helpu i droi ymchwil a pholisi yn wybodaeth y gellir ei defnyddio, gan gynnwys creu briffiau a phecynnau gwybodaeth ar gyfer aelodau etholedig y Blaid, ymgeiswyr, canghennau lleol ac etholaethau
- Cysylltu â thimau Ymgyrchoedd a Chyfathrebu'r Blaid i gyfrannu cynnwys ysgrifenedig a digidol i helpu i gyfathrebu polisïau'r Blaid ar lwyfannau amrywiol
- Defnyddio data ac adborth sydd ar gael i helpu i nodi meysydd newydd ar gyfer ymchwil a datblygu polisi
- Cefnogi gweithgareddau ymgynghori ac ymchwil y Blaid mewn perthynas â datblygu polisi
- Cefnogi gweinyddiaeth effeithiol dyraniad Grant Datblygu Polisi'r Blaid a chadw at reoliadau'r Comisiwn Etholiadol ar gyfer gweinyddu'r grant
Sgiliau a Phrofiad Allweddol
Hanfodol
- Gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol mewn gwleidyddiaeth neu feysydd cysylltiedig megis y gyfraith, polisi cymdeithasol, neu'r dyniaethau
- Dealltwriaeth o werthoedd a pholisïau allweddol Plaid Cymru
- Diddordeb yng ngwleidyddiaeth a phroses llunio polisi yng Nghymru
- Y gallu i wneud ymchwil, gwerthuso a chrynhoi pwyntiau allweddol
- Y gallu i weithio i derfynau amser, bod yn drefnus a rheoli amser yn effeithiol
- Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb
- Y gallu i gyfleu syniadau a pholisïau mewn modd cryno a darllenadwy ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Dymunol
- Y gallu i gyfathrebu'n rhugl ac effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weithio o fewn sefydliadau gwleidyddol a/neu sefydliadau a arweinir gan aelodau
Dyddiad Cau
10am, dydd Gwener, 2 Chwefror 2024
Ceisiadau
Anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi at [email protected]
Lawrlwytho