Swydd wag: Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Teitl: Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru - Tŷ Gwynfor, Caerdydd
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa.Math o gytundeb: Parhaol, Llawn amser
Hyblyg - Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau eraill o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno ymgymryd â’r rôl hon yn rhan amser neu’n rhannu swydd.Rheolwr Llinell: Pennaeth Cyfathrebu
Cyflog: Band 2 (£24,413 - £35,388)
Penodir fel arfer ar ben isaf y raddfa.Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Mae Plaid Cymru yn cynnig system o weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gyda dyddiau braint ychwanegol.
Pwrpas y Rôl
Cyflawni elfennau allweddol o strategaeth cyfathrebu digidol y Blaid, gan gynnwys rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol o ddydd i ddydd, a dadansoddi perfformiad digidol y Blaid.
Prif Gyfrifoldebau
- O dan oruchwyliaeth y Pennaeth Cyfathrebu, cymryd cyfrifoldeb am gyflawni elfennau cyfryngau cymdeithasol o strategaeth gyfathrebu Plaid Cymru
- Creu asedau digidol fel fideo a ffeithluniau
- Rheolaeth gymunedol ac ymgysylltu â sylwadau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Blaid
- Cynorthwyo i ddarparu cyfathrebiadau mewnol digidol o fewn y Blaid
- Monitro a gwerthuso llwyddiant ymgyrchoedd cyfathrebu digidol, ac argymell ffyrdd o wella gwaith a chyrhaeddiad y Blaid
- Cefnogi atgyfnerthu ffrydiau gwaith eraill o fewn y Blaid (ee aelodaeth a chodi arian) drwy gyfryngau cymdeithasol
- Cefnogi gweddill y Tîm Cyfathrebu i gyflwyno negeseuon Plaid Cymru mewn modd sy’n adlewyrchu ei gwerthoedd a’i hapêl i’r etholwyr
Sgiliau a Phrofiad Allweddol
Hanfodol
- Gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol ym meysydd cyfathrebu, cyfryngau, ieithoedd neu ddyniaethau
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o'r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol; Facebook, X / Twitter, Instagram a TikTok
- Dealltwriaeth o ddadansoddeg cyfryngau cymdeithasol a sut i'w defnyddio i ysgogi gwelliant cyson mewn perfformiad
- Gwybodaeth am ddylunio graffeg a golygu
- Y gallu i gyfleu negeseuon mewn ffyrdd cryno a deniadol trwy lwyfannau cymdeithasol
- Gwerthfawrogiad o bwysigrwydd cadw at ganllawiau, disgyblaeth brand a neges wrth gyfathrebu trwy gyfryngau cymdeithasol
- Y gallu i weithio'n gyflym mewn amgylchedd cyffrous, a rheoli amser yn effeithiol
- Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb
- Dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru a gwerthoedd craidd Plaid Cymru
- Y gallu i gyfathrebu'n rhugl ac effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg
Dymunol
- Profiad o weithio o fewn sefydliadau gwleidyddol a/neu sefydliadau a arweinir gan aelodau
- Profiad o ddefnyddio hysbysebion taledig trwy gyfryngau cymdeithasol
Dyddiad Cau
10am, dydd Gwener, 2 Chwefror 2024
Ceisiadau
Anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi at [email protected]
Lawrlwytho