Teitl: Swyddog Gweinyddiaeth a Chyfathrebu Mewnol

Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru - Tŷ Gwynfor, Caerdydd
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa.

Math o gytundeb: Parhaol, Llawn amser
Hyblyg - Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau eraill o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sy’n dymuno ymgymryd â’r rôl hon yn rhan amser neu’n rhannu swydd.

Rheolwr Llinell: Pennaeth Cyllid, Cydymffurfio ac Adnoddau Dynol

Cyflog: Band 3 (£23,008 - £29,483)
Penodir fel arfer ar ben isaf y raddfa.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, gyda’r angen i weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Mae Plaid Cymru yn cynnig system o weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, gyda dyddiau braint ychwanegol.

Pwrpas y Rôl

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am drefnu gweinyddiaeth y Blaid, a gweithredu strategaeth aelodaeth a chyfathrebu mewnol.


Prif Gyfrifoldebau

  • Cynorthwyo gyda gweithredu strategaeth aelodaeth a fydd yn gwella profiad aelodau ac yn helpu i ddenu aelodau newydd
  • Gweithredu strategaethau cyfathrebu mewnol i aelodau trwy ddeunyddiau electronig ac argraffedig
  • Dylunio a gweithredu ymgyrchoedd codi arian ymhlith aelodau'r Blaid
  • Paratoi a chylchredeg papurau pwyllgorau cenedlaethol y Blaid (Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a’r Cyngor Cenedlaethol)
  • Cryfhau'r berthynas rhwng y swyddfa ganolog, etholaethau a changhennau, a swyddfeydd lleol, a helpu i sicrhau cyfathrebu mewnol effeithiol
  • Ymateb i ymholiadau gan swyddogion cangen a swyddogion etholaeth ar faterion gweinyddol neu sicrhau bod yr ymholiadau'n cael eu hateb
  • Paratoi dogfennau a gohebiaeth yn ddwyieithog a'u cyfieithu o bryd i'w gilydd
  • Cynorthwyo gyda'r trefniadau ar gyfer Cynadleddau Blynyddol ac etholiadau mewnol y Blaid

Sgiliau a Phrofiad Allweddol

Hanfodol

  • Gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol
  • Dealltwriaeth o werthoedd craidd Plaid Cymru
  • Sgiliau trefniadol cryf a sylw i fanylion
  • Y gallu i gyfathrebu'n rhugl ac effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Y gallu i weithio i derfynau amser allanol caled a rheoli amser yn effeithiol
  • Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthynas waith dda ar draws meysydd cyfrifoldeb
  • Y gallu i gynhyrchu cynnwys deniadol ar gyfer cyfathrebu ag aelodau, mewn print ac yn electronig
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth yn gryno a darllenadwy ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd

Dymunol

  • Profiad o weithio o fewn sefydliadau gwleidyddol a/neu sefydliadau a arweinir gan aelodau
  • Profiad o gynorthwyo gyda chyflwyno digwyddiadau
  • Gwybodaeth am ddylunio graffeg sylfaenol trwy Canva neu lwyfannau tebyg

Dyddiad Cau

10am, dydd Gwener, 2 Chwefror 2024

Ceisiadau

Anfonwch ffurflen gais wedi ei llenwi at [email protected]


Lawrlwytho

🗎 Ffurflen Gais (.doc)