Y Ffordd i Annibyniaeth / The Road to Independence

Mae’r ddadl ynghylch dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn fwy byrlymus nag erioed.

Bydd cyfraniad diweddaraf Plaid Cymru i’r sgwrs genedlaethol hon – ei thystiolaeth i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – yn destun digwyddiad arbennig a gynhelir yng Nghaerdydd fis nesaf.

Lansiad: Y Ffordd i Annibyniaeth – tystiolaeth Plaid Cymru i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Cyhoeddir gan Y Lolfa 

Pwy: Adam Price AS yn sgwrsio gyda Sian Gwenllian

Pryd: Dydd Mercher 7 Rhagfyr, 6:30yh i 8:30yh

Ble: Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn.

Ymunwch gyda ni i glywed mwy am sut y mae tystiolaeth y blaid yn:

- Egluro pam na all y trefniadau datganoli presennol barhau, a pham na fyddai syniadau amgen unoliaethol megis ffederaliaeth yn gweithio.

- Datgymalu’r ddadl fod Cymru’n rhy fach neu rhy dlawd i ffynnu fel gwlad annibynnol.

- Cynnig cynlluniau dros dro i greu Senedd sofran fel cam tuag at annibyniaeth, ar ffurf Cymru Cysylltiadaeth Rydd.

- Mae’r cyhoeddiad hwn (y gellir ei ganfod fan hyn) yn ddatblygiad mawr yng ngwaith meddwl Plaid Cymru ar annibyniaeth, ac yn gynnyrch rhai o feddylwyr mwyaf praff y blaid.

Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno gyda ni ar yr hyn sy’n addo bod yn drafodaeth fywiog a diddorol.


The debate surrounding Wales’s constitutional future has never been so vibrant.

Plaid Cymru’s latest contribution to this national conversation - its evidence to the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales – will be the subject of a special event to be held in Cardiff next month. 

Launch of: The Road to Independence - Plaid Cymru's evidence to the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. Published by Y Lolfa

Who: Adam Price MS in conversation with Sian Gwenllian

When: Wednesday 7 December, 6:30pm to 8:30pm

Where: Temple of Peace, Cathays Park, Cardiff

A limited number of spaces are available for this exciting upcoming event.

Join us to hear more about how the party’s evidence:

  • Explains why the present devolution arrangements cannot last, and why unionist alternatives such as federalism will not work.
  • Debunks the argument that Wales is too small or too poor to thrive as an independent nation.
  • Makes proposals for a sovereign Senedd as an interim step towards independence, in the form of a Free Association Wales.

This submission (which can be found here) is a major development in Plaid Cymru’s thinking on independence, the product of some of the sharpest minds within the party.

We hope you will be able to join us for what promises to be an engaging stimulating discussion.

Pryd

-

-

Ble

Temple of Peace, Cathays Park
King Edward VII Ave
Cardiff CF10 3AP

Map Google a chyfarwyddiadau

Rhannu

49 RSVP

Cefin Campbell David Lloyd Roberts Ceri Blacvk Mary Elizabeth Evans Lisbeth McLean Eurfyl ap Gwilym Clive Robert Busson Meic Pattison Kevin Davies Morgan Rogers Mark Holborn Sefat Salama John Osmond Deian Hughes Adrian Stone Jonathan Evershed Gill Griffin Kevin Harry


A fyddwch yn dod?