Diolch am gymryd rhan yn yr arolwg byr hwn. Gofynnir i chi ymateb i ddim ond 7 o gwestiynau.

Gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y paragraff byr sy’n rhoi tipyn o wybodaeth i chi am ein syniad polisi a pham ein bod ni’n ystyried ei fod yn bwysig i Gymru.

Cewch gwestiwn amlddewis ar ôl pob cwestiwn.

Diolch.


 

Faint ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda chyflwyno Taliad Plant Cymru?

Mae 29.3% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Llynedd, Cymru oedd yr unig genedl yn y DG i weld lefelau tlodi plant yn codi: mae arnom angen cymryd camau ar frys i helpu miloedd o blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae mwy na dwy ran o dair o blant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi yn byw ar aelwydydd lle mae o leiaf un oedolyn mewn gwaith. Gwaetha’r modd, mae disgwyl i lefelau tlodi plant yng Nghymru godi o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar unwaith i helpu miloedd o blant sy’n byw mewn tlodi trwy ddarparu taliadau wedi eu targedu o £35 yr wythnos i deuluoedd sy’n byw islaw’r llinell dlodi – gyda rhyw ddwy ran o dair o’r rhain gydag un rhiant neu’r ddau mewn gwaith.