Ocsiwn y Gynhadledd
Yn ystod Cinio'r Gynhadledd yng Nghynhadledd Wanwyn 2022 Plaid Cymru ar Nos Wener 25 Mawrth 2022, byddwn yn cynnal Ocsiwn er budd y Blaid. Nid oes tocynnau ar gael i'r Cinio mwyach, ond mae croeso i chi yrru Cynigion Cynnar o flaen llaw (manylion isod), neu mae'n bosibl trefnu o flaen llawn i gynnig yn fyw dros ffôn (cysylltwch â [email protected] i drafod hyn).
Catalog
Mae catalog yr arwerthiant i'w weld ar-lein. Bydd mwy o eitemau yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.
Cynigion Cynnar
I wneud cynigion cynnar, e-bostiwch [email protected] gyda'r pennawd "Cynnig Ocsiwn". Cofiwch gynnwys rhif yr eitem ac enw'r darn rydych chi'n cynnig amdano, a'ch cais uchaf. Croeso i chi gysylltu gydag unrhyw gwestiynau.