Blaenoriaethau Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd: llechen lân a chyfeiriad clir.
Rydym yn credu mewn Cymru lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, lle mae teuluoedd yn cael eu cefnogi, a lle mae gan bawb y cyfle i fyw bywyd da. Dyma ein blaenoriaethau:
Mae rhestrau aros yr NHS yn rhy hir, gyda mwy na 5,000 o bobl yn aros mwy na 2 flynedd am driniaeth yng Nghymru, o'i gymharu â llai na 200 yn Lloegr.
Gan gynnwys drwy agor 10 canolfan lawfeddygol bwrpasol ar gyfer triniaethau fel cluniau a phen-gliniau newydd, llawdriniaethau hernia a thynnu cataractau, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ostwng amseroedd aros – gan sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu trin, yn gynt, ac adeiladu lle yn y system i wneud ein gwasanaeth iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae teuluoedd yng Nghymru yn talu mwy nag yn unrhyw ran arall o'r DU am ofal plant, ac mae nifer yn methu fforddio hynny o gwbl. Mae hyn yn effeithio ar gyllidebau teuluoedd ac ar allu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.
Bydd cynnig gofal plant newydd Plaid Cymru yn cynnwys 20 awr am 48 wythnos y flwyddyn i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed – gwerth mwy na £30,000 y plentyn ar ôl ei gyflwyno'n llawn. Byddwn hefyd yn cadw'r 30 awr bresennol o ofal plant i blant 3-4 oed.
Rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, cefnogi rhieni yn ôl i'r gwaith a sicrhau y gall pob plentyn gael mynediad at fanteision gofal plant o safon.
Mae myfyrwyr Cymru yn tanberfformio o'i gymharu â myfyrwyr rhannau eraill y DU o ran sgiliau craidd mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg.
Trwy gynllun llythrennedd a rhifedd newydd – gyda thargedau cenedlaethol, lefel ysgol a fesul disgybl clir – byddwn yn canolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn, a rhoi'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ein holl bobl ifanc. Byddwn yn codi'r safon ar safonau addysgol yn ein hysgolion, ac yn grymuso ein gweithlu addysg ymroddedig i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau – addysgu.
Mae nifer o fusnesau Cymru eisoes yn perfformio’n well na’r disgwyl ar lefel ryngwladol. Ond mae economi Cymru hefyd yn llawn potensial heb ei wireddu.
Mae gan Blaid Cymru’r cynllun economaidd mwyaf cynhwysfawr gan unrhyw blaid wleidyddol, unrhyw le yn y DU – cynllun i dyfu a chynnal busnesau Cymru a chreu swyddi cynaliadwy, sy’n talu’n dda, a chadw elw yn ein cymunedau.
Byddwn yn gwneud hyn drwy sefydlu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, dan arweiniad busnesau – gan gefnogi busnesau Cymru i dyfu a pharhau i fod dan berchnogaeth Gymreig, gan ddarparu swyddi cynaliadwy, diwygio trethi busnes i gefnogi busnesau ar ein strydoedd mawr a chadw mwy o arian cyhoeddus yng Nghymru, gyda busnesau Cymru.
Mae bron i 1 o bob 3 o blant Cymru yn byw mewn tlodi – er gwaethaf addewid Llafur i ddod â thlodi plant i ben erbyn 2020. Mae tyfu mewn tlodi yn effeithio ar bopeth o iechyd plant i’w cyrhaeddiad addysgol a’u gobeithion gwaith yn y dyfodol.
Mae Plaid Cymru yn gwrthod derbyn bod tlodi plant yn anochel. Yn seiliedig ar y dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi, byddwn yn gweithredu strategaeth tlodi plant newydd ac yn treialu Cynnal – Taliad Plant Cymru – i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i’r teuluoedd sydd ei hangen fwyaf.
Am gyfnod rhy hir, mae Llafur wedi methu â sefyll dros Gymru yn San Steffan.
Bydd Plaid Cymru yn rhoi Cymru yn gyntaf, gan wthio am gyllid tecach, mwy o bwerau gan gynnwys ar Ystâd y Goron, cyfiawnder a phlismona, a mwy o barch i Gymru o fewn y DU - gan roi llais cryfach i Gymru a'r pŵer i adeiladu dyfodol gwell i ni ein hunain.