Carrie Harper
Ymgeisydd etholaeth Wrecsam a rhanbarth Gogledd Cymru (rhif 2)
Soniwch amdanoch eich hun
Cefais fy ngeni a’m magu ym Mharc Caia yn Wrecsam, y stad cyngor fwyaf yng ngogledd Cymru. Rwy’n dal i fyw ar y stad gyd a ’nghymar a’n dau blentyn, ac yr wyf wedi cynrychioli ward Queensway dros Blaid Cymru ers 2008.
Wedi tyfu i fyny mewn ardal sydd â rhai o’r lefelau uchaf i dlodi plant yng Nghymru, rwy’n deall anghydraddoldeb yn well na llawer o bobl, ac yr wyf yn frwd dros godi fy nghymuned. Rwy’n ymgyrchydd profiadol ar faterion fel cynllunio, iechyd a newid hinsawdd, yr wyf yn canolbwyntio ar adeiladu Cymru well a hyrwyddo’r neges mai’r unig ffordd i wneud hyn yw trwy Lywodraeth Plaid Cymru ac yn y pen draw trwy annibyniaeth.
Rwy’n frwd hefyd am yr iaith Gymraeg. Rwy’n ddysgwraig fy hun ac y mae ’nghymar a ‘nau blentyn yn rhugl eu Cymraeg. Rwyf wedi ymgyrchu dros ysgolion cyfrwng-Cymraeg yn lleol, a fi oedd un o sylfaenwyr canolfan ddiwylliannol Saith Seren, sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, yn ogystal â hyrwyddo’r diwylliant Cymreig.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Rydym yn wynebu dyfodol ansicr, oherwydd Covid, oherwydd newid hinsawdd, oherwydd Brexit. Mae’n amlwg nad yw ein cymunedau eisiau dychwelyd i hen system sydd wedi eu siomi; maent eisiau atebion mentrus newydd i wynebu’r heriau anodd hyn.
Rwyf eisiau mynd â neges y Blaid at y cymunedau a anghofiwyd gan Lafur; mae’n bryd anghofio mesurau llipa a gwan – gallwn gael newid radical yng Nghymru ond mae’n rhaid i ni ethol gwleidyddiaeth radical o wahanol i gyflwyno hynny. 2021 yw ein cyfle i wneud yr union beth hwnnw.
Beth wnewch chi dros Wrecsam / Gogledd Cymru petaech yn cael eich ethol?
Rhaid i ni gydnabod fod y byd yn newid, a gwneud yn siŵr fod Cymru ar flaen y gad o ran trawsnewid a pharatoi ein heconomi ar gyfer swyddi’r dyfodol.
Does dim amheuaeth fod y cyfleoedd sydd o’n blaenau yn yr economïau gwyrdd a digidol, a pharatoi’r seilwaith sydd ei angen i groesawu’r trydydd chwyldro diwydiannol hwn. Rhaid i ni wneud yn sicr, yn enwedig wedi Covid, fod yr holl bwerau a’r mecanweithiau y mae arnom eu hangen i adeiladu’r Gymru well ar gael i ni.
Rwy’n hen gyfarwydd â’m hetholaeth gan fy mod wedi cynrychioli’r ardal ers 2008 ar lefel sirol. Rwy’n deall ein huchelgais yn lleol: rwy’n deall y rhwystredigaethau hefyd. Mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai anodd, o gofio effaith pandemig Covid a Brexit: mae cyfleoedd a heriau o’n blaenau.
Fe wna’i yn wastad leisio gweledigaeth yn nhermau ein potensial.