Cynhadledd Flynyddol Rithwir 2021
Virtual Annual Conference 2021
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn rhithwir rhwng 25 - 27 Tachwedd.
Gan mai cynhadledd rithwir yn unig yw hon, byddwn yn canolbwyntio'n bennaf ar fusnes swyddogol y Blaid - gan gynnwys ethol swyddogion i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, y Pwyllgor Llywio, a dadleuon polisi ar y cynigion a'r gwelliannau a gyflwynir gan ganghennau ac etholaethau.
Cyhoeddir mwy o wybodaeth yn fuan, ond mae amserlen ddangosol fel a ganlyn:
Nos Iau 25 Tachwedd: 6:30yh - Hustings Rhithiol Byw ar gyfer etholiadau mewnol
Dydd Gwener 26 Tachwedd: Araith yr Arweinydd
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd: 9:45yb ymlaen - cynigion polisi a gwelliannau. Cliciwch i ddarllen y cynigion a'r gwelliannau (aelodau'n unig).
Er mwyn cymryd rhan yn unrhyw un neu bob un o'r digwyddiadau hyn, rhaid i aelodau gofrestru cyn 10am, dydd Gwener 26 Tachwedd. Gan gadw mor agos â phosibl â Rheolau Sefydlog y Blaid, dim ond y rhai sydd wedi cofrestru fydd yn cael mynediad i ddigwyddiadau'r gynhadledd ac yn cael manylion am sut i bleidleisio yn yr etholiadau mewnol.
Plaid Cymru's Annual Conference will be held virtually between 25 - 27 November.
As it will be held virtually, the conference will focus primarily on official party business - including the election of officers to the National Executive Committee, Steering Committee, and policy debates on the motions and amendments submitted by branches and constituencies.
More information will be published soon, but an indicative timetable is as follows:
Thursday 25 November: 6:30pm - Live Virtual Hustings for internal elections
Friday 26 November: Leader's Speech
Saturday 27 November: 9:45am onwards - policy motions and amendments. Click to read the motions and amendments (members only).
In order to take part in any or all of these events, members will need to register before 10am on Friday 26 November. In keeping as close as possible with the party’s Standing Orders, only those who have registered will be permitted access to the conference events and be sent details on how to vote in the internal elections.
738 RSVP