Cynhadledd Wanwyn 2024

Cynhelir Cynhadledd Wanwyn 2024 Plaid Cymru yn Galeri, Caernarfon ar ddyddiau Gwener a Sadwrn, 22-23 Mawrth 2024.

Cofrestru

Gadewch i ni wybod os ydych chi'n dod i Gaernarfon!

Amserlen

Mae amserlen y gynhadledd bellach wedi ei chyhoeddi ar gyfer dydd Gwener a dydd Sadwrn

Cinio'r Gynhadledd

Cynhelir y Cinio eleni yng Ngwesty'r Celt, Caernarfon, ar nos Wener, 22 Mawrth.

Mae tocynnau yn £55 y pen i Aelodau Plaid Cymru - archebwch yma.


Cyfleoedd Cynhadledd - Sefydliadau

Mae'r Gynhadledd yn gyfle perffaith i gyflwyno'ch sefydliad i'n haelodau, cynghorwyr, a seneddwyr.

Mae digonedd o gyfleoedd i sefydliadau o bob maint i gymryd rhan yn y Gynhadledd, gan gynnwys cynnal trafodaethau ar y prif lwyfan, cyfarfod ymylol, neu stondin yn y neuadd arddangos; noddi'r cinio, derbyniad, neu'r lolfa arbennig; hysbysebu yn llawlyfr y gynhadledd; neu fel fynychu fel sylwedydd arbennig.

Ebostiwch [email protected] i holi am gopi o'r Pecyn Cyfleoedd, neu i drafod anghenion eich sefydliad.