Gwybodaeth Ddefnyddiol Cynhadledd

Venue Cymru, Llandudno: 21-22 Mawrth 2025

Atebion i gwestiynau cyffredin am y Gynhadledd. E-bostiwch [email protected] os oes gennych chi fwy.


Pwy sy'n cael mynd?

Mae pob aelod o Blaid Cymru yn cael mynd i'r Gynhadledd. Ddim yn aelod? Dim problem - ymunwch arlein!

[i'r brig]


Beth os na alla i ddod?

Byddwn yn ffrydio'r prif lwyfan yn fyw ar ein gwefan ac ar ein llwyfannau cymdeithasol:

plaid.cymru/cynhadledd  |  Facebook  |  YouTube  |  X

[i'r brig]


Ble mae'r Gynhadledd a sut ydw i'n mynd i fewn?

Bydd y Gynhadledd yn digwydd yn Venue Cymru, Llandudno.

Cyfesurynnau: 53.32208, -3.81639
Cod post: LL30 1BB
Google Maps

Mae'r fynedfa i'r Gynhadledd ar y promenâd (mynedfa Gynadledda Venue Cymru). O faes parcio Venue Cymru, ewch drwy'r swyddfa docynnau i gyrraedd y prom, a throi i'r dde lawr y lôn at fynedfa'r Gynhadledd. Ni fydd modd mynd i fewn i'r Gynhadledd trwy ardal bar y theatr.

Cynllun llawr y Gynhadledd

Cliciwch i'w hagor yn fwy:


Llawr gwaelod


Llawr 1

[i'r brig]


Sut ydw i'n cyrraedd yno?

Rydym yn eich annog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os gallwch - mae Venue Cymru o fewn pellter cerdded i orsaf drenau Llandudno ac arosfannau bysiau lleol. Defnyddiwch Traveline Cymru i gynllunio eich siwrne.

Os ydych yn teithio mewn car, mae maes parcio talu-ac-arddangos cyhoeddus ar y safle, ac mae gan Gyngor Conwy restr o feysydd parcio Llandudno.

[i'r brig]


Ydw i angen cofrestru?

Oes - ond dim ond wrth gyrraedd, lle byddwch chi'n cael eich pàs. Does dim angen cofrestru o flaen llaw.

Os ydych yn dod ar y ddau ddiwrnod, dim ond ar y bore Gwener fydd angen i chi gofrestru - cadwch eich pàs i gael mynediad ar y dydd Sadwrn.

[i'r brig]


Oes unrhyw gost?

Mae ffi gofrestru o £1, sy'n daladwy wrth gofrestru.

[i'r brig]


Beth ddylwn i wisgo?

Beth bynnag rydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei wisgo. Bydd rhai mewn siwtiau, rhai mewn dillad hamdden, ac eraill rhywle rhwng y ddau!

[i'r brig]


Oes yna fwyd a diod?

Oes, bydd caffi ar y safle.

[i'r brig]


Fydd 'na gyfieithu ar y pryd?

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob sesiwn ar y prif lwyfan.

[i'r brig]


Sut ydw i'n pleidleisio yn yr etholiadau mewnol?

Nid oes etholiadau mewnol yn y Gynhadledd hon.

[i'r brig]


Ga i gadw'r pàs?

Os ydych yn gadael y safle, byddwch angen eich pàs i ddod yn ôl i fewn, yn cynnwys bore yr ail ddiwrnod.

Wrth adael am y tro olaf, byddwch gystal â gadael y cortyn a'r amlen blastig os gwelwch yn dda - cewch gadw'r pàs papur os mynnwch, neu fe wanwn ni ei ailgylchu ar eich rhan.

[i'r brig]


Ble mae Cinio'r Gynhadledd?

Mae Cinio'r Gynhadledd yng Ngwesty St George, Llandudno.

Cyfesurynnau: 53.32484, -3.82862
Cod post: LL30 2LG
Google Maps

[i'r brig]