Cyfansoddiad
Cyfansoddiad Plaid Cymru - The Party of Wales
Diweddarwyd Tachwedd 2023
Gallwch lawrlwytho copi pdf o Gyfansoddiad Plaid Cymru gyda'r botwm uchod, neu bori'r addasiad ar-lein gyda'r penawdau isod:
Cynnwys
- Enw
- Amcanion
- Dulliau
- Aelodaeth
- Disgyblaeth
- Lefelau Sylfaenol Trefniadaeth Leol
- Pwyllgorau Etholaeth
- Canghennau
- Pwyllgorau Sir
- Ardaloedd Etholiadol y Senedd - Taleithiau
- Adrannau Cenedlaethol
- Y Cyngor Cenedlaethol
- Y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol
- Tîm yr Arweinydd
- Y Gynhadledd
- Swyddogion Cenedlaethol
- Rheolau Sefydlog a Rheolau
- Newid y Cyfansoddiad
- Dehongliad
- Argyfwng
Cyfansoddiad
Plaid Cymru - the Party of Wales
1
Enw
Enw’r blaid fydd 'Plaid Cymru - The Party of Wales' (cyfeirir ati hefyd fel “y Blaid”).
2
Amcanion
Fel Plaid Genedlaethol Cymru, amcanion y Blaid fydd:
2.1
Ennill annibyniaeth i Gymru yn Ewrop.
2.2
Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganolaidd.
2.3
Adeiladu cymdeithas genedlaethol yn seiliedig ar ddinasyddiaeth gyfartal, parch i wahanol draddodiadau a diwylliannau, a gwerth cydradd pob unigolyn, beth bynnag fo’i hil, cenedligrwydd, rhyw, lliw, credo, rhywioldeb, oedran, abledd na chefndir cymdeithasol. Rhain yw gwerthoedd craidd y Blaid.
2.4
Creu cymdeithas ddwyieithog drwy hyrwyddo adfywiad yr iaith Gymraeg.
2.5
Hyrwyddo cyfraniad Cymru i’r gymdeithas fyd-eang ac ennill iddi yr hawl i aelodaeth o’r Cenhedloedd Unedig.
3
Dulliau
3.1
Bydd Plaid Cymru - The Party of Wales yn ymgyrraedd at yr amcanion hyn trwy weithgaredd gwleidyddol, a drefnir yn ddemocrataidd gan aelodau’r Blaid yn cyd-gysylltu â’i gilydd yn ddirwystr yn unol â darpariaeth y Cyfansoddiad hwn.
3.2
Bydd holl weithgareddau’r Blaid yn cael eu cynnal yn unol â’r egwyddor o gyfle cyfartal i bob aelod.
4
Aelodaeth
4.1
Disgrifir y trefniadau sy’n rheoli ceisiadau i ddod yn aelod o'r Blaid ac i adnewyddu aelodaeth, ar gyfer rhai sydd â hawl cyfreithiol i fod yn aelodau o bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Aelodaeth, Safonau a Disgyblaeth
4.2
Bydd yr egwyddorion canlynol yn llywodraethu’r Rheolau Sefydlog hynny:
-
4.2i
Mae aelod yn cytuno i hyrwyddo amcanion y Blaid fel y’u disgrifir hwynt yn y Cyfansoddiad hwn -
4.2ii
Ni fydd aelod yn aelod o unrhyw fudiad gwleidyddol arall a fydd yn sefyll yn erbyn Plaid Cymru - The Party of Wales mewn etholiadau -
4.2iii
Mae aelod yn cytuno i gadw at Gyfansoddiad a Rheolau Sefydlog y Blaid -
4.2iv
Bydd aelod yn talu’r tâl aelodaeth, a benderfynir o bryd i’w gilydd gan y Cyngor Cenedlaethol -
4.2v
Bydd aelod wedi cael ei dderbyn yn aelod gan y corff priodol, a ddiffinnir yn y Rheolau Sefydlog.
4.3
Bydd gan unrhyw ymgeisydd am aelodaeth neu am adnewyddiad aelodaeth, y bo ei gais yn cael ei wrthod, yr hawl i apelio fel a ddisgrifir yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Aelodaeth, Safonau a Disgyblaeth.
5
Disgyblaeth
5.1
Gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw aelod gan y corff priodol a ddiffinir yn y Rheolau Sefydlog pan nad yw aelod yn parhau i gydymffurfio â gofynion paragraff 4, neu pan fo ei ymddygiad mewn rhyw ffordd arall yn niweidiol i’r Blaid.
5.2
Bydd gan unrhyw aelod sy’n cael ei ddisgyblu fel yma yr hawl i apelio fel a ddisgrifir yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Aelodaeth, Safonau a Disgyblaeth.
6
Lefelau Sylfaenol Trefniadaeth Leol
6.1
Lefel sylfaenol trefniadaeth y Blaid fydd yr Etholaeth, a fydd yn gyfrifol am weithgareddau’r Blaid o fewn ei hardal weithredu ddiffiniedig.
6.2
Bydd Etholaethau’n cael eu sefydlu ar yr union ffiniau a ddefnyddir ar gyfer etholaethau Senedd San Steffan.
6.3
Gall y Pwyllgor Etholaeth sefydlu Canghennau.
6.4
Bydd pob Etholaeth a Changen yn gweithredu yn unol â Cyfansoddiad a Rheolau Sefydlog y Blaid a bydd ganddynt y trefniadau angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofynion cofrestru a chyfrifo deddfwriaeth gyfredol.
7
Pwyllgorau Etholaeth
7.1
Sefydlir Pwyllgor Etholaeth ar gyfer pob un o Etholaethau cyfredol Senedd San Steffan.
7.2
Etholir y pwyllgorau hyn o blith yr aelodaeth yn unol â’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Etholaethau, a fydd yn cynnwys fel lleiafswm y rheidrwydd i sicrhau cynrychiolaeth o bob un cangen gydnabyddedig o fewn yr etholaeth.
7.3
Disgrifir gweithrediad Pwyllgorau Etholaeth yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Etholaethau
7.4
Bydd Pwyllgorau Etholaeth yn gyfrifol o fewn eu tiriogaethau am:
-
7.4i
Gydlynu strategaeth wleidyddol y Blaid, ynghyd â gweithgareddau ymgyrchu ac etholiadol, recriwtio a chadw aelodau, addysg wleidyddol, datblygu polisi a chynnal trafodaeth - 7.4ii
Cydweithio gyda’r Etholaeth gyfagos y parwyd hwy â hi at ddibenion etholiadau’r Senedd er mwyn ffurfio Talaith (ll: Taleithiau) i gynnal pob agwedd o weithgareddau etholiadol ac ymgyrchu yng nghyd-destun yr etholiadau hynny, yn unol â’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Taleithiau -
7.4iii
Datblygu’r rhwydwaith o Ganghennau fel bo’n briodol gan gynorthwyo’r Canghennau gwannaf yn yr ardal -
7.4iv
Cefnogi gwaith y Canghennau sydd o fewn yr Etholaeth gan gynnwys eu gwaith wrth godi arian, gweithgareddau cymdeithasol, ymgyrchoedd lleol a chynnal meddalwedd adnabod pleidleiswyr ac ymgyrchu.
7.5
Bydd pob Pwyllgor Etholaeth yn talu ffi cofrestru blynyddol i’r Blaid.
7.6
Gall Cangen sydd yn gweithredu tu allan i Gymru wneud cais i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol i gael ei dynodi yn Etholaeth.
8
Canghennau
8.1
Gall Pwyllgorau Etholaeth—ac fe’u hanogir i wneud—gydnabod, sefydlu, datblygu a chefnogi rhwydwaith o Ganghennau a fydd yn cynnig peirianwaith wedi’i wreiddio’n lleol ar gyfer gweithredu’r strategaeth wleidyddol gan gynnwys agweddau megis codi incwm ac uniaethu agos ag etholwyr.
8.2
Fel arfer, ond nid o reidrwydd ym mhob achos, bydd Canghennau wedi eu seilio ar wardiau etholiadol unigol, neu gyfuniadau o wardiau.
8.3
Er mwyn cael ei chydnabod gan y Pwyllgor Etholaeth fel Cangen swyddogol, bydd y Gangen yn cynnwys y nodweddion hyn:
-
8.3i
Bydd gan Gangen o leiaf 10 aelod cyfredol wedi eu cofrestru gan Swyddfa Genedlaethol y Blaid -
8.3ii
Bydd Cangen wedi talu’r ffi gofrestru fel a osodir gan y Cyngor Cenedlaethol.
8.4
Gall y Pwyllgor Etholaeth osod criteria ychwanegol ar gyfer cydnabod Canghennau yn seiliedig ar y strategaethau gwleidyddol a gweithredol a fabwysiedir ganddo, mewn cytundeb â’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.
8.5
Disgrifir gweithrediad Canghennau yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Canghennau.
9
Pwyllgorau Sir
9.1
Bydd Pwyllgor Sir yn cael ei sefydlu a fydd yn cynnwys cynrychiolyddion o’r Canghennau sydd o fewn ardal ddaearyddol y Cyngor Sir neu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.
9.2
Prif bwrpas y pwyllgorau hyn fydd i gynnig cefnogaeth a chraffu gwaith cynghorwyr etholedig, ac i adnabod meysydd polisi craidd o fewn maes gwaith yr Awdurdod Lleol a all fod yn sail i ymgyrchu lleol.
9.3
Bydd y pwyllgor hwnnw yn gweithredu’n unol â’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Pwyllgorau Sir.
10
Ardaloedd Etholiadol y Senedd - Taleithiau
10.1
Bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu’r derminoleg “Talaith” ar gyfer pob un o unedau etholiadol Senedd Cymru. Dylid ffurfio Pwyllgor Talaith o gynrychiolwyr yr Etholaethau yn y Dalaith honno. Bydd gofyn i’r pwyllgorau hyn wneud trefniadau ar gamau rheoli cyllid, am ddewis ymgeiswyr ac am strategaeth ymgyrchu ar gyfer etholiadau’r Senedd, a byddant yn gweithredu yn unol â’r holl Rheolau Sefydlog priodol.
11
Adrannau Cenedlaethol
11.1
Gall aelodau o’r Blaid sy’n dymuno gwneud darpariaeth ar gyfer diddordebau penodol ffurfio adrannau, a chaiff y rheini wneud cais i’r Cyngor Cenedlaethol am gael eu cydnabod fel Adrannau Cenedlaethol swyddogol o’r Blaid.
11.2
Gall y Cyngor Cenedlaethol gydnabod Adrannau Cenedlaethol swyddogol pan fo’r Cyngor Cenedlaethol wedi cytuno ar Gyfansoddiad a Rheolau Sefydlog yr Adran.
11.3
Bydd statws Adrannau Cenedlaethol Swyddogol yn cael ei adolygu yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Cenedlaethol.
11.4
Bydd pob Adran Swyddogol yn cyflwyno adroddiad blynyddol yn sesiwn mewnol y Gynhadledd.
11.5
Os yw aelodau Adran yn penderfynu dod ag Adran i ben gyda phenderfyniad gan yr awdurdod priodol o fewn yr Adran, bydd y cyn-gadeirydd yn hysbysu’r Prif Weithredwr o benderfyniad yr Adran a bydd holl adnoddau’r Adran yn cael eu trosglwyddo i’r Blaid yn genedlaethol.
11.6
Gall y Cyngor Cenedlaethol benderfynu dileu unrhyw Adran, ac os bydd yn gwneud bydd adnoddau’r Adran sydd yn cael eu dileu yn cael eu trosglwyddo i’r Blaid yn genedlaethol.
12
Y Cyngor Cenedlaethol
12.1
Sefydlir Cyngor Cenedlaethol a fydd yn gyfrifol am:
-
12.1i
Gadarnhau strategaeth y Blaid yn dilyn argymhellion y Pwyllgor Gwaith -
12.1ii
Cytuno aelodaeth y Fforwm Polisi Cenedlaethol a thrin a thrafod mentrau polisi -
12.1iii
Cymeradwyo cynnwys strategol ac egwyddorion pob maniffesto etholiadol, gan sicrhau cysondeb â pholisi’r Blaid -
12.1iv
Gweithredu unrhyw benderfyniad a gyfeirir ato gan y Gynhadledd -
12.1v
Unrhyw swyddogaethau eraill a briodolir iddo mewn rhannau eraill o’r Cyfansoddiad hwn a’r Rheolau Sefydlog.
12.2
Disgrifir trefn a chyfansoddiad y Cyngor Cenedlaethol yn Rheolau Sefydlog y Cyngor Cenedlaethol.
13
Y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol
13.1
Ceir Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a fydd yn gyfrifol am:
-
13.1i
Cytuno cyfeiriad strategol a gwleidyddol y Blaid a’i gyflwyno i’w cymeradwyo gan y Cyngor Cenedlaethol -
13.1ii
Sicrhau bod penderfyniadau’r Gynhadledd a’r Cyngor Cenedlaethol yn cael eu gweithredu -
13.1iii
Rheoli cyllid a threfniadaeth y Blaid -
13.1iv
Craffu ar waith yr holl unigolion a thimau sy’n gyfrifol am wireddu’r strategaeth -
13.1v
Trefnu a chyfarwyddo ymgyrchoedd cenedlaethol -
13.1vi
Cyflogi a chyfarwyddo staff a chynnal ac adolygu pob polisi a gweithdrefn sy’n rhan o’r rôl o fod yn gyflogwr -
13.1vii
Perchnogaeth a rheolaeth ar asedau cenedlaethol y Blaid.
13.2
Disgrifir trefn a chyfansoddiad y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn Rheolau Sefydlog y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol. Gall y Rheolau Sefydlog hyn wneud darpariaeth ar gyfer cyflawni unrhyw rai neu’r cyfan o’r swyddogaethau uchod trwy is-bwyllgorau a/neu grwpiau gorchwyl-a-gorffen priodol, ond ni fydd y ddarpariaeth hon yn dwyn ymaith gyfrifoldeb cyffredinol y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.
14
Tîm yr Arweinydd
14.1
Sefydlir Tîm yr Arweinydd a fydd yn gyfrifol am oruchwylio tactegau gwleidyddol y Blaid o ddydd i ddydd a gweithrediad ymarferol strategaeth y Blaid.
14.2
Bydd Tîm yr Arweinydd yn cynnwys:
- Arweinydd y Blaid
- Cadeirydd y Blaid
- Arweinydd y Blaid yn San Steffan
- Y Prif Weithredwr (heb bleidlais)
14.3
Gall Tîm yr Arweinydd gyfethol aelodau ychwanegol ar sail dros dro neu barhaol yn ddarostyngedig i gadarnhad y Pwyllgor Gwaith.
14.4
Bydd cofnodion llawn Tîm yr Arweinydd yn cael eu cadw a’i cylchredeg i’r Pwyllgor Gwaith a bydd yr Arweinydd yn eu cyflwyno ar gyfer eu craffu.
15
Y Gynhadledd
15.1
Y Gynhadledd fydd awdurdod pennaf y Blaid ac felly bydd yn agored i bob aelod.
15.2
Bydd y Gynhadledd yn gyfrifol am:
-
15.2i
Benderfynu polisi’r Blaid -
15.2ii
Ethol Swyddogion Cenedlaethol.
15.3
Disgrifir gweithgareddau a chyfansoddiad y Gynhadledd yn Rheolau Sefydlog y Gynhadledd.
16
Swyddogion Cenedlaethol
16.1
Bydd gan y Blaid y Swyddogion Cenedlaethol a restrir yn 16.3 isod, a etholir yn unol â’r Rheolau ar gyfer Ethol Swyddogion Cenedlaethol, er mwyn cyflawni’r swyddogaethau a ddisgrifir yn Swydd Ddisgrifiadau Swyddogion Cenedlaethol.
16.2
Mae’r Blaid yn amcanu at sicrhau bod rhestr ei Swyddogion Cenedlaethol yn gytbwys o ran rhyw.
16.3
-
16.3i
Arweinydd: Yr Arweinydd fydd Arweinydd grŵp y Blaid yn y Senedd. -
16.3ii
Cadeirydd: Y Cadeirydd fydd yn gyfrifol am beirianwaith mewnol y Blaid ac am gynrychioli llais yr aelodau. -
16.3.iii
Dirprwy Gadeirydd: Gellir ethol Dirprwy Gadeirydd gan aelodau’r Pwyllgor Gwaith o blith ei aelodau. Pan fydd y Cadeirydd yn ddyn bydd y Dirprwy’n fenyw, a fel arall. Bydd rôl y Dirprwy yn ychwanegol at y swyddogaeth sydd yn gyfrifol am aelodaeth y person o’r Pwyllgor Gwaith. -
16.3iv
Cynrychiolwyr Rhanbarthol: At ddibenion cynrychiolaeth ranbarthol ar y PGC, dylid ffurfio pedwar clwstwr o Daleithiau, gyda phob un yn ethol dau gynrychiolydd, yn gyfartal o ran rhyw. Cyfeirir at yr endidau hyn fel Rhanbarth/Rhanbarthau. -
16.3v
Trysorydd -
16.3vi
Cyfarwyddwyr: Etholir nifer o Gyfarwyddwyr yn gyfrifol am feysydd gwaith penodol, fel y’i diffinir gan y Cyngor Cenedlaethol. -
16.3vii
Cadeirydd y Pwyllgor Llywio
16.4
Gall y Gynhadledd hefyd ethol Llywydd Anrhydeddus yn dilyn enwebiad gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, i gydnabod gwasanaeth neilltuol i’r Blaid.
17
Rheolau Sefydlog a Rheolau
17.1
Bydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn llunio ac yn cynnal Rheolau Sefydlog a Rheolau dros y canlynol:
-
17.1i
Gweithgarwch a chyfansoddiad pob corff y mae cyfeiriad ato yn y Cyfansoddiad hwn -
17.1ii
Derbyn aelodau, ynghyd â rheolau disgyblaeth a safonau -
17.1iii
Dewis ymgeisyddion i sefyll yn enw’r Blaid mewn unrhyw etholiad -
17.1iv
Ymddygiad cynrychiolyddion etholedig y Blaid, a grwpiau, ar bob lefel llywodraeth -
17.1v
Swydd-ddisgrifiadau pob swyddog cenedlaethol yn y Blaid ac unrhyw swyddog arall y tybia sy’n addas -
17.1vi
Unrhyw agwedd arall o waith y Blaid y tybia sydd ei angen, neu sy’n briodol.
17.2
Bydd yr holl Reolau hyn yn seiliedig ar egwyddorion y Cyfansoddiad hwn.
17.3
Bydd yr holl Reolau hyn yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor Cenedlaethol i’w diwygio a/neu eu cymeradwyo.
17.4
Dim ond y Gynhadledd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod pennaf y Blaid yn ôl cymal 15 o’r cyfansoddiad hwn, a gaiff sefydlu a newid Rheolau Sefydlog y Gynhadledd.
17.5
Gellir newid yr holl setiau o Reolau a Rheolau Sefydlog y cyfeirir atynt yn 17.1 uchod gan fwyafrif syml o’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio yn y corff cymeradwyo priodol.
17.6
Bydd gan y Rheolau Sefydlog a’r Rheolau y cyfeirir atynt uchod yr un statws a phe baent wedi eu hymgorffori yn y Cyfansoddiad hwn, a bydd strwythurau a threfniadau’r Blaid, y cyfeirir atynt yn y Rheolau Sefydlog ac yn y Rheolau, yn gaeth iddynt. Yr unig nodwedd sy’n wahanol rhyngddynt a phrif gorff y Cyfansoddiad yw’r broses o’u drafftio a’u diwygio.
17.7
Lle bo anghysondeb rhwng y Rheolau Sefydlog hyn a’r Cyfansoddiad, y Cyfansoddiad hwn fydd oruchaf.
18
Newid y Cyfansoddiad
18.1
Ni cheir newid y Cyfansoddiad hwn ond trwy bleidlais o leiaf deuparth y cynrychiolyddion sy’n bresennol ac yn pleidleisio yn y Gynhadledd.
19
Dehongliad
19.1
Os digwydd bod unrhyw anghysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cyfansoddiad neu’r dogfennau y cyfeirir atynt yn 17 uchod, y fersiwn a ddrafftiwyd gyntaf gaiff flaenoriaeth. Bydd pob dogfen yn dangos mewn troednodyn ym mha iaith y'i drafftiwyd hi gyntaf.
19.2
Os digwydd bod unrhyw gwestiwn yn codi ynglŷn â dehongliad y Cyfansoddiad neu’r dogfennau y cyfeirir atynt yn 17 uchod, bydd cadeirydd y cyfarfod (neu rhwng cyfarfodydd, Cadeirydd y Blaid) yn dyfarnu ar y mater a bydd ei ddyfarniad yn derfynol oni bai bod cynnig yn cael ei basio yn gofyn i’r person symud o’r Gadair. Bydd pob ddyfarniad o’r fath yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, a fydd yn argymell gweithredu i ddileu unrhyw amwysedd.
20
Argyfwng
20.1
Os bydd sefyllfa o argyfwng lle mae angen gweithredu’n fuan er lles y Blaid, bydd gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yr hawl i newid unrhyw reolau sefydlog dros dro.
20.2
Bydd mwyafrif syml o aelodau’r Pwyllgor Gwaith, naill ai trwy bleidleisio mewn cyfarfod ffurfiol, neu drwy ddull arall y tu allan i gyfarfod, yn ddigon i benderfynu a oes argyfwng ai peidio, ac i gytuno ar y newidiadau sydd eu hangen.
20.3
Rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gyflwyno adroddiad o unrhyw benderfyniadau a wnaed dan y cymal hwn i gyfarfod nesaf y Cyngor Cenedlaethol.
*Lluniwyd y ddogfen hon yn wreiddiol yn Saesneg