O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol yn y DU, ac eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, er mwyn gwneud rhodd o fwy na £500.
Os byddwch yn rhoi mwy na £11,180 i'r Blaid, mae'n ofynnol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 i roi gwybod am rodd o'r fath i'r Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi'r ffaith eich bod wedi gwneud rhodd dros £11,180. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.