Gwybodaeth Ddefnyddiol Cynhadledd
Venue Cymru, Llandudno: 2-3 Hydref 2026
Atebion i gwestiynau cyffredin am y Gynhadledd. E-bostiwch [email protected] os oes gennych chi fwy.
Pwy sy'n cael mynd?
Mae pob aelod o Blaid Cymru yn cael mynd i'r Gynhadledd. Ddim yn aelod? Dim problem - ymunwch arlein!
[i'r brig]
Beth os na alla i ddod?
Byddwn yn ffrydio'r prif lwyfan yn fyw ar ein gwefan ac ar ein llwyfannau cymdeithasol:
plaid.cymru/cynhadledd | Facebook | YouTube | X
[i'r brig]
Ble mae'r Gynhadledd?
Bydd y Gynhadledd yn digwydd yn Venue Cymru, Llandudno
Cod post: LL30 1BB
Google Maps
[i'r brig]
Sut ydw i'n cyrraedd yno?
Mae gwybodaeth ar eu gwefan am sut i gyrraedd yno.
Byddwn yn defnyddio mynediad y Promenâd yn unig ar gyfer y gynhadledd.
[i'r brig]
Ydw i angen cofrestru?
Bydd gofyn i bob aelod gofrestru - ond dim ond wrth gyrraedd, lle byddwch chi'n cael eich pàs.
Os ydych yn dod ar y ddau ddiwrnod, dim ond ar y bore Gwener fydd angen i chi gofrestru - cadwch eich pàs i gael mynediad ar y dydd Sadwrn.
[i'r brig]
Oes unrhyw gost?
Mae ffi gofrestru o £1 i aelodau, sy'n daladwy wrth gofrestru.
[i'r brig]
Beth ddylwn i wisgo?
Beth bynnag rydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei wisgo. Bydd rhai mewn siwtiau, rhai mewn dillad hamdden, ac eraill rhywle rhwng y ddau!
[i'r brig]
Oes yna fwyd a diod?
Oes, bydd caffi ar y safle.
[i'r brig]
Fydd 'na gyfieithu ar y pryd?
Bydd cyfieithu ar y pryd (Cymraeg i Saesneg) a dehongliad BSL ar gael ym mhob sesiwn ar y prif lwyfan.
[i'r brig]
Ga i gadw'r pàs?
Os ydych yn gadael y safle, byddwch angen eich pàs i ddod yn ôl i fewn, yn cynnwys bore yr ail ddiwrnod.
Wrth adael am y tro olaf, byddwch gystal â gadael y cortyn os gwelwch yn dda - cewch gadw'r pàs papur os mynnwch, neu fe wanwn ni ei ailgylchu ar eich rhan.
[i'r brig]