Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price a’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyflwyno Cytundeb Cydweithio.

Rhaglen bolisi ar y cyd yw’r cytundeb ac mae’n ymdrin â 46 o feysydd amrywiol. Yn eu plith y mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i'r afael â’r argyfwng ail gartrefi; a diwygio’r Senedd yn y tymor hir.

Dyma fath newydd o drefniant gweithio gwleidyddol. Bydd y ddau bartner – Grŵp Senedd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru – yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a goruchwylio'r gwaith o wireddu’r polisïau sy’n rhan o’r cytundeb.

Mae'r Cytundeb i'w gweld isod (efallai y bydd rhaid i chi ail-lwytho'r dudalen) - neu cliciwch i'w darllen a'i chadw.

Dogfennau atodol:

Tabl y rhaglen bolisi lawn

Mecanweithiau