Dai Lloyd

Ymgeisydd Gorllewin Abertawe

Dai Lloyd - Gorllewin Abertawe

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n briod ac y mae gen i 3 o blant sy’n oedolion bellach. Cefais fy ngeni yn Nhywyn, Gwynedd, a chefais fy magu ar fferm y teulu ger Llambed. Rwyf wedi byw yn Abertawe ers bron i 40 mlynedd, gan weithio fel meddyg teulu ym meddygfeydd Ravenhill, Mayhill a Thre-Gŵyr. Yn naturiol, arweiniodd hyn fi i fagu profiad a gwybodaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, ond rhoes gyfle i mi hefyd i weld yn uniongyrchol rai o’r heriau a’r anghydraddoldeb sy’n wynebu ein dinas.

Yr awydd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn a arweiniodd fi i fynd i mewn i wleidyddiaeth. Cefais f’ethol yn Gynghorydd lleol yn ward Cocyd Abertawe, cyn cael f’ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol cyntaf ym 1999. Fy mhrif ddiddordebau gwleidyddol yw iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a diwylliant. Y tu allan i wleidyddiaeth, rwy’n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe a chlwb rygbi’r Gweilch.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Y bygythiad mwyaf sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd yw’r ymosodiad ddemocratiaeth Cymru ei hun. Allwn ni ddim disgwyl i’r Senedd fynd i’r afael â heriau allweddol newid hinsawdd, datblygu economaidd a chyfiawnder cymdeithasol oni fydd gennym y pwerau angenrheidiol.

Mae angen i’r Senedd ddeddfu a rhoi map sy’n dangos y llwybr i Gymru ddod yn wladwriaeth annibynnol - gyda phwerau gwleidyddol, economaidd a barnwrol yn cael eu dal yn llawn gan y Senedd, a rhyddid i Gymru ddewis ei llwybr ei hun, yn hytrach na chael ei chlymu wrth Lywodraeth Dorïaidd fyrbwyll yn Llundain.

Beth wnewch chi dros Orllewin Abertawe petaech yn cael eich ethol?

Rwyf wedi ymrwymo i wneud yn siŵr y caiff Abertawe ei datblygu fel canolfan ranbarthol wirioneddol i dde-orllewin Cymru. Byddaf yn dwyn pwysau fel bod Abertawe yn dod yn ganolfan ragoriaeth ranbarthol, ac am greu swyddi mewn meysydd megis ynni adnewyddol - yn canoli o amgylch Morlyn Llanw hyfyw, ac ymchwil feddygol - yn ychwanegol at bwyso am ddatblygu’r economi sylfaenol yn y ddinas. Byddaf yn ymgyrchu hefyd am fuddsoddi mewn cludiant cyhoeddus ac am gyflwyno system Metro ranbarthol i gysylltu pob rhan o’r ddinas - gan ail-agor hen orsafoedd a rheilffyrdd.