Dr Elin Walker Jones

Ymgeisydd etholaeth Gorllewin Clwyd a rhanbarth Gogledd Cymru (rhif 3)

Elin Walker Jones - Gorllewin ClwydElin Walker Jones - Gogledd Cymru (3)

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

O Gaerfyrddin rwy’n dod yn wreiddiol, ond wedi byw yng ngogledd Cymru ers dros ugain mlynedd gyda ‘ngŵr a phedwar o blant. Rwy’n gweithio fel seicolegydd clinigol y GIG gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroddatblygiadol.

Bu gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, gan fod yn ymwybodol iawn fod anghenion pobl Cymru’n cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan San Steffan, ac felly, rwyf wastad wedi bod yn gefnogwr balch i Gymru annibynnol. Mae fy ngwaith yn y GIG wedi taflu goleuni ar yr anghyfartaledd yn ein cymdeithas yng Nghymru heddiw, felly rwy’n awyddus i newid pethau fel bod gan bobl well cyfle i gael bywydau iach a hapus efo’u hanwyliaid.

Rwyf hefyd yn gynghorydd dinas a sir, sydd wedi caniatáu i mi ymgyrchu a gweithio yn lleol ar faterion megis yr amgylchedd, tlodi, tai gwell a diogelwch y ffyrdd, yn ogystal â’r materion y deuaf ar eu traws yn fy ngwaith yn y GIG.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Y pwnc fu yn y penawdau dros y flwyddyn a aeth heibio oedd y pandemig, o raid. Mae wedi dangos pwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd ar draws y blaned i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio arnom fel bodau dynol, megis y pandemig, newid hinsawdd, tlodi, anghyfartaledd ac ati. Mae arnom angen agwedd ryngwladol a chyfun i ymdrin â’r problemau dynol hyn.

Un pwnc pwysig i mi yw’r angen i ddod o hyd i ffyrdd o ofalu am ein plant, a phobl hŷn hefyd, ac yr wyf yn credu y dylai gofal cymdeithasol, fel gofal iechyd, fod ar gael am ddim pan mae’n cael ei gyflwyno, ac y dylai gofalwyr gael eu talu’r un fath â staff y GIG. Mae arnom angen un strwythur sy’n rhoi gofal iechyd a chymdeithasol, yn effeithiol, a hynny ym mhob cwr o Gymru.

Beth wnewch chi dros Orllewin Clwyd / Gogledd Cymru petaech yn cael eich ethol?

Mae Gorllewin Clwyd yn etholaeth gydag anghenion amrywiol, o’r arfordir poblog lle mae cyfran uchel o bobl wedi ymddeol, sy’n galw am fwy o ofal iechyd a chymdeithasol, i’r cefnwlad gwledig ac amaethyddol, lle mae a wnelo’r pynciau a godwyd â gofal cymdeithasol hygyrch, tlodi digidol, diffyg swyddi, seilwaith, a thai addas a fforddiadwy – mae hyn yn bwnc ar hyd yr etholaeth i gyd, fel mewn rhannau eraill o Gymru. Nid pawb sy’n ymwybodol fod llawer o’r materion hyn wedi eu datganoli. Hoffwn ddwyn cymunedau i mewn ar lawr gwlad i drin rhai o’r problemau hyn, i roi grym i’r pŵer mwyaf sydd gennym dros newid: lleisiau ein cymunedau.