Fflur Elin

Ymgeisydd etholaeth Gogledd Caerdydd a rhanbarth Canol De Cymru (rhif 3)

Fflur Elin - Gogledd CaerdyddFflur Elin - Canol De Cymru (3)

Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n 26 oed ac wedi fy ngeni a’m magu yn Nhonyrefail. Mi es i’r Brifysgol ym Mangor ac yno ymddiddorais mewn gwleidyddiaeth trwy ymgyrchu gydag Undeb y Myfyrwyr yn erbyn toriadau Llywodraeth y DU i grantiau i fyfyrwyr. Rwyf nawr yn gweithio gyda thîm Plaid Cymru yn San Steffan.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae’r misoedd diwethaf wedi amlygu’r ffaith fod y model economaidd presennol wedi torri. Yr her i’r Senedd dros y pum mlynedd nesaf yw symud tuag at fodel sy’n gosod lles ein cymunedau wrth ei galon. Yr her i Lywodraeth nesaf Cymru yw bod yn ddigon dewr i gyflwyno trawsnewid. Rhaid i hyn gychwyn gyda chamau pendant ar bwnc talu am ofal cymdeithasol a gofal plant, trawsnewid cynaliadwy gwirioneddol i economi werdd, gan roi blaenoriaeth i dai fforddiadwy a buddsoddi mewn gofal iechyd seiliedig yn y gymuned.

Beth wnewch chi dros Ogledd Caerdydd/ Ganol De Cymru petaech yn cael eich ethol?

Byddaf yn gynrychiolydd cryf ac yn gweithio’n galed gyda’n cymunedau i greu newid ystyrlon.