Glenn Swingler

Ymgeisydd Dyffryn Clwyd

Glenn Swingler - Dyffryn Clwyd

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n bum-deg-wyth oed ac wedi bod yn briod â'm gwraig Beth ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Rwy’n dad i ddau o blant ac yn daid i bedwar o blant iau. Rwy’n byw yn Ninbych ac yr wyf yn gynghorydd sir a thref. Rwy’n gweithio fel gweithiwr cefnogi iechyd meddwl yn y dref.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae ar Gymru angen y pwerau i ddarparu ar gyfer pobl Cymru. Dyna pam fy mod yn credu bod refferendwm ar annibyniaeth, yn nhymor cyntaf y Senedd, o’r pwys mwyaf.

Pwy bynnag ydym ni, o ble bynnag yr ydym yn dod, pa bynnag iaith a siaradwn, fe ddylem allu gwneud ein penderfyniadau ein hunain am ddyfodol Cymru.

Beth wnewch chi dros Ddyffryn Clwyd petaech yn cael eich ethol?

Mae pobl leol yn cael eu prisio allan o’u cymunedau gyda lefelau anghynaladwy o ail gartrefi yn mygu gallu pobl leol i gael cartrefi yn y cymunedau hynny.

Buaswn i’n rhoi blaenoriaeth i dai gwirioneddol fforddiadwy - gan sicrhau bod gan bawb hawl i do uwch eu pennau.

Yn Nyffryn Clwyd, mae dwy o’n wardiau yn y tair ward uchaf yng Nghymru gyfan ar y mynegai amddifadedd. Mae dwy ddegawd o Lafur mewn llywodraeth yng Nghymru a’r Torïaid mewn llywodraeth yn San Steffan wedi gadael pobl Cymru mewn angen.

Byddai codi pobl allan o dlodi yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Plaid Cymru – gan sicrhau cyflog byw go-iawn a phrydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn teulu ar gredyd cynhwysol.