Grenville Ham

Ymgeisydd Brycheiniog a Sir Faesyfed

Grenville Ham - Brycheiniog a Sir Faesyfed

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Grenville ydw i, ac yr wyf yn briod ac yn dad i dri o blant. Yn Rhydychen y cefais fy ngeni a’m magu, ac yr wyf wëid byw yn Aberhonddu dros yr 16 blynedd diwethaf. Rwy’n gweithio mewn ynni adnewyddol, a’r rhan orau o’m gwaith yw gwybod fod y systemau ynni rydw i’n eu dylunio a’u hadeiladu yn mynd i ddarparu trydan gwyrdd ac incwm yn y tymor hir i bobl leol am ddegawdau i ddod.

Fu gen i ddim diddordeb o hyd mewn gwleidyddiaeth, ond roedd gweld diffyg gweithredu ar newid hinsawdd a diffyg gobaith i ‘mhlant yma yn y Canolbarth wedi f’annog i roi fy enw gerbron. Ar wahân i’r gwaith, ac ar wahân i dreulio amser efo ‘nheulu, rwy’n mwynhau darlunio a rhoi prawf ar fy sgiliau gyda chrefftau’r gwyllt mewn mannau anghysbell - unwaith, mi dreuliais 47 diwrnod yn olynol ar daith trwy anialdir Awstralia!

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae’r byd ar fin gwneud naid dechnolegol, un lle bydd technoleg werdd, cadwyni cyflenwi lleol, nanodechnoleg a chynaliadwyedd yn sylfaen i bopeth arall. Ond ar hyn o bryd, dyw’r seilwaith ddim gennym ledled Cymru i’w gyflwyno. Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau gosod y darnau yn eu lle i alluogi Cymru i gamu’n hyderus i’r chwyldro diwydiannol Gwyrdd: bydd y pum mlynedd nesaf yn hollbwysig – os arhoswn ddim hwy, cawn ein gadael ar ôl.

Beth wnewch chi dros Frycheiniog a Sir Faesyfed petaech yn cael eich ethol?

Yn gyntaf, mae’n hanfodol fod Brycheiniog a Maesyfed yn dechrau cael cyfran deg o arian gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid i ni hefyd adeiladu gweledigaeth o’r lle’r ydym yn dymuno bod. Rwy’n gweld dyfodol f’etholaeth fel bod yn fagwrfa syniadau newydd mewn amaethyddiaeth, profiadau ymwelwyr a chwmnïau bychan sydd mewn technoleg werdd oll yn helpu i greu economi gadarn a bod ar flaen y gad yn arwain trwy’r argyfwng amgylcheddol. I gyflwyno hyn, bydd arnom angen arweiniad gwirioneddol.