Helen Mary Jones

Ymgeisydd etholaeth Llanelli a rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhif 2)

Helen Mary Jones - LlanelliHelen Mary Jones - Canolbarth a Gorllewin Cymru (2)

Gwefan Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Cefais fy ngeni yn Lloegr a fy magu yn Colchester a Sir Drefaldwyn. Ymunais â Phlaid Cymru ym 1979 wedi methiant refferendwm datganoli pan oeddwn yn 19 ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yr oedd gan fy nheulu ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac un o’m hatgofian cynharaf yw dadl yn y teulu am ryfel Vietnam pan oeddwn tua 6 oed. Cawsom ein dysgu’n wastad, petaem yn meddwl bod rhywbeth o’i le y dylem geisio ei unioni. Mae’r gwersi hynny wedi aros gyda mi.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Rwy’n cofio bod mor ddig yn ystod y 1980au fod Llywodraeth Dorïaidd na wnaethom bleidleisio drosti - nid yw pobl Cymru erioed wedi ethol mwyafrif o wleidyddion Ceidwadol - yn rhydd i ddinistrio ein cymunedau glofaol. Y Blaid yw’r cartref naturiol i rywun o ‘nghred i - mewn cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a hawl cenhedloedd i’w llywodraethu eu hunain.

Cefais fy ethol gyntaf i gynrychioli Llanelli ym 1999 ac yr wyf yn credu yng nghyfnod y pandemig hwn fod arnom angen rhywun gyda phrofiad i roi sefydlogrwydd mewn adeg ansicr. Mae’n debyg na fu erioed cymaint o ganolbwyntio ar ddemocratiaeth Gymreig oherwydd Coronafeirws, yn fwy felly, nag ym 1999 pan drechais ddisgwyliadau i ennill sedd Llanelli.

Os caf f’ethol fis mai yn Llanelli - fel Gweinidog yr Economi, byddwn am ganolbwyntio ar adeiladu’n ôl yn wych, nid yn unig yn well; rhaid i ni wneud yn siŵr nad effeithir yn andwyol ar gyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd oherwydd y dirwasgiad a gofalu, pan fyddwn yn ail-godi ein heconomi, ein bod yn ystyried yr argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu yn ogystal â Coronafeirws.

Beth wnewch chi dros Lanelli / Canolbarth a Gorllewin Cymru petaech yn cael eich ethol?

Mae cymaint o bobl alluog a dawnus yn ein cymunedau, yma yn Llanelli a ledled Cymru. Yn rhy aml, mae’r doniau hynny yn cael eu gwastraffu, gyda phobl yn gwneud dim ond dal ati. Mae arnom angen Llywodraeth Cymru newydd gydag Adam Price yn Brif weinidog i ryddhau’r holl botensial hwnnw, sicrhau fod swyddi da ar gael i bawb, llywodraeth sy’n uchelgeisiol a hyderus, un sydd yn credu yn ein cenedl a’r cymunedau y gallwn fod. Mae angen i ni greu cyfoeth er mwyn ei rannu, a buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd, gofal ac addysg o’r radd flaenaf. Wedi 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae traean o’n plant yn tyfu i fyny mewn teuluoedd tlawd. Does dim rhaid iddi fod fel hyn. Gall Plaid Cymru, wrth weithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, newid hyn. Ac fe wnawn.