Ian Gwynne

Ymgeisydd Merthyr Tudful a Rhymni

Ian Gwynne - Merthyr Tudful a Rhymni

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Ian Gwynne wyf i, tad 52 oed o Ferthyr fydd yn dad-cu yn fuan.

Fel llawer o bobl a dyfodd lan yng nghyfnod Thatcher, rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ond chefais i erioed mo’r amser i fod yn wleidyddol weithgar am fod gen i swydd -er fy mod yn falch iawn o’r amser a dreuliais yn cychwyn ac yn rhedeg tîm Rygbi’r Gynghrair ym Merthyr.

Dewisais symud o ddilyn i weithredu wrth gefnogi ymgyrch Mark Evans yn Etholiad Cyffredinol 2019. Ers hynny, rwyf wedi gweld sut mae’r sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi symud o’r cefndir i’r brif ffrwd.

Os yw Cymru am gyrraedd ei photensial llawn, rhaid i bob un ohonom gamu ymlaen a chwarae eu rhan, felly, dyma fi.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae dyfodol ein pobl ifanc mewn perygl. Mae swyddi’n cael eu colli oherwydd y pandemig, mae tai yn y cymoedd mewn argyfwng, a dyw’n plant ddim yn cael y dyfodol maent yn haeddu.

Nid mater o adfer yn unig yw hyn, ond twf gwirioneddol a sicrhau bod gan bobl ifanc ddyfodol yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni adeiladu’r dyfodol hwnnw iddyn nhw.

Beth wnewch chi dros Ferthyr Tudful a Rhymni petaech yn cael eich ethol?

Fe wna’i sicrhau tai mwy fforddiadwy a gwyrdd. Does y nesaf peth i ddim wedi bod yma dros y pedair blynedd a aeth heibio. Fe wna’i ymrwymo i ddwyn busnesau newydd i mewn i’r ffatrïoedd a’r unedau diwydiannol gwag ar hyd a lled yr etholaeth, ochr yn ochr â sicrhau swyddi i’n pobl ifanc.