Ar y penwythnos gwelwyd pobl yn teithio pellteroedd anhygoel, weithiau gannoedd o filltiroedd i ymweld â rhai o fannau harddwch Cymru, er ei fod yn erbyn cyfraith ein gwlad.

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu'r llythyr agored hwn at y Prif Weinidog yn ei annog i gynyddu dirwyon i gadw Cymru'n ddiogel.

A wnewch chi ychwanegu eich enw at eu llythyr?

Trwy lofnodi, yr ydych yn cytuno i Blaid Cymru gofnodi eich barn wleidyddol a’i ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu. Gallwch weld ein polisi diogelu data yma.

Annwyl Brif Weinidog,

Mae symudiad pobl o ardaloedd mwy poblog gyda chyfraddau uwch o Covid-19 i gymunedau mwy gwledig yn creu tensiynau diangen.
Mae pobl leol, wrth reswm, yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o gynyddu cyfraddau Covid-19 yn eu hardaloedd nhw. Credwn mai'r brif flaenoriaeth yw amddiffyn y cymunedau hyn.

Mae profiadau ein heddluoedd ar lawr gwlad dros yr wythnosau diwethaf yn dilyn newidiadau a lleddfu cyfyngiadau teithio yn Lloegr, yn dangos yn glir bod yn rhaid i ni fod yn fwy gwyliadwrus ac yn llymach gyda dirwyon. Ar hyn o bryd, nid yw’r gosb yng Nghymru yn cyd-fynd â’r drosedd. Yn syml, nid yw'n gweithio.

Ysgrifennodd y pedwar Prif Gwnstabl a phob un o bedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru atoch ddydd Gwener yn gosod y dystiolaeth ynghylch pam mai dirwyon uwch yw’r ataliad gorau i bobl sy’n teithio i Gymru ac o fewn Cymru. Cytunwn mai codi'r dirwyon i'r rhai sy'n torri rheolau cloi yng Nghymru - a'u gwneud yn gydradd â Lloegr, yw'r cam cywir i ganiatáu i'n heddlu amddiffyn ein cymunedau yn well yn ystod yr argyfwng hwn.

Felly gofynnwn fel Prif Weinidog gynyddu'r dirwyon y gall yr heddlu eu dosbarthu ar frys fel y gallwn gadw Cymru yn ddiogel.

Peidiwch â siomi cymunedau.

676 signatures