Jamie Evans
Ymgeisydd rhanbarth Gorllewin De Cymru (rhif 4)
Soniwch amdanoch eich hun
Rwy’n 25 oed ac yn byw yng Nghastell Nedd gyda ‘nghi collie bach, Gruff. Rwy’n Gynghorydd Sir yng Nghastell Nedd ar hyn o bryd ac yn y gweithio yn y Senedd fel swyddog cyfathrebu. Yn f’amser sbâr rwy’n mwynhau darganfod, gyda’r ci, y llefydd gwych o gwmpas Castell Nedd a’r ardal , a dod yn olaf yng nghwis y dafarn.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Hoffwn weld mwy o dai fforddiadwy yn cael eu codi er mwyn gwneud yn siŵr y gall pobl ifanc fel fi fforddio mynd ar yr ysgol eiddo a byw yn eu hardal leol.
Beth wnewch chi dros Orllewin De Cymru petaech yn cael eich ethol?
Fe wna’i bopeth yn fy ngallu i gael y fargen orau oll i’r rhanbarth cyfan, cefnogi Metro Bae Abertawe a’r Cymoedd Gorllewinol, a morlyn llanw Bae Abertawe. Dal llywodraeth San Steffan i gyfrif am eu methiant i gyflwyno prosiectau fel denu Ineos i Ben-y-bont.