John Davies

Ymgeisydd etholaeth Gŵyr a rhanbarth Gorllewin De Cymru (rhif 3)

John Davies - GŵyrJohn Davies - Gorllewin De Cymru (3)

Gwefan Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Cefais fy ngeni a'm magu yng nghanol Abertawe ac rwy’n byw ym Mhenclawdd, Gŵyr; rwy’n briod, gyda phedwar o blant. Rwyf wedi rhedeg dau fusnes ers 32 o flynyddoedd, gan greu mwy na 4500 o swyddi yng Nghymru, a sylfaenais gynllun dosbarthu cawl y blaid i’r digartref yn ninas Abertawe.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae 2021 yn flwyddyn dyngedfennol i Gymru. Mae arnom angen dadl frys am ein dyfodol, ac yr wyf eisiau bod yn rhan o hynny.

Dioddefodd Cymru o ddegawdau o danfuddsoddi gan San Steffan, a diffyg llywodraethiant enbyd gan weinyddiaethau Llafur yng Nghaerdydd. Er bod gennym GDP y pen tebyg i Sbaen a Phortiwgal, ni yw’r genedl dlotaf yng ngogledd Ewrop. Nawr rydym ond yn ennill £1 yng Nghymru lle mae’n cyfoedion yn Iwerddon yn ennill £2.75. Mae rhywbeth mawr o’i le.

Mae dyfodol ein plant dan fygythiad, a’u breuddwydion heb eu cyflawni. Mae gwir dlodi yn bodoli, a chymunedau’n dioddef.

Mae Brexit ac ymateb methiannus y DG i COVID-19, ynghyd â newid hinsawdd, yn gwneud dyfodol Cymru yn ansicr yn economaidd a chymdeithasol. Ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Rwyf eisiau bod arf flaen y gad mewn llywodraeth flaengar fydd yn arwain Cymru ymlaen i fod yn bartner cyfartal â’n holl gyfoedion yng ngogledd Ewrop, megis Iwerddon, Denmarc, neu hyd yn oed y Ffindir (sydd oll yn gyfoethocach na’r DG fesul unigolyn).

Bydd economi llwyddiannus a gwyrdd yn creu cymunedau iach a bywiog. Mae hyn o fewn ein cyrraedd, pan fydd y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydweithio er lles pawb.

Byddaf yn brwydro hyd eithaf fy ngallu i sicrhau bod dyfodol ein plant yn gallu cyflawni eu breuddwydion. Mae dyfodol ein plant yn perthyn yng Nghymru a gallant fynd mor bell ag y dymuna’u dychymyg. Allwn ni ddim fforddio methu.

Beth wnewch chi dros Gŵyr / Gorllewin De Cymru petaech yn cael eich ethol?

Mae dirywiad economaidd graddol Abertawe/Gŵyr wedi arwain at niwed cymdeithasol ac economaidd dwfn, ond mae modd ei wrthdroi – os bydd gennym wleidyddiaeth wahanol; llywodraeth Cymru a all beri newid gwirioneddol i drawsnewid Gŵyr/Abertawe.

Byddwn yn ymgyrchu i Gyngor Abertawe gefnogi busnesau lleol. Wrth i fusnesau lleol elwa, byddwn yn ymgyrchu dros gyflog byw. Gyda’n gilydd, gallwn droi’r llanw ar y tlodi enbyd sy’n bodoli yma.

Byddwn yn ymgyrchu hefyd i wneud Gŵyr/Abertawe yn ganolfan i’r ‘Chwyldro Gwyrdd Newydd’ yng Nghymru, y ganolfan i ddylunio, adeiladu a rhedeg y Morlyn Llanw, ym mherchenogaeth Cymru, yn rhoi i ni a busnesau lleol ynni glan 100%.

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn unwaith eto fod yn ganolbwynt y chwyldro diwydiannol newydd i ail-ddiwydiannu Cymru yn wyrdd: i greu swyddi i ni oll a’n plant. Mae angen i ni wrthdroi’r dirywiad araf, a rhoi yn ei le ddyfodol gwyrdd, iach a bywiog.