Cadwch y 6 Gwlad ar gael yn rhad ac am ddim
Adroddwyd y gallai gemau’r Chwe Gwlad gael eu tynnu oddi ar teledu rhad ac am ddim yn fuan - ac ar gael trwy deledu talu-i-wylio yn unig.
Byddai symud y gemau eiconig hyn i wasanaeth talu yn unig yn ddim llai na thrychinebus i rygbi yng Nghymru. Wedi'r cyfan, mae yna lawer yng Nghymru sydd ddim yn gallu fforddio teledu lloeren ac nid yw gwylio'r gemau mewn tafarn bob amser yn bosibl i bawb.
Mae'r Chwe Gwlad a'r gêm rygbi ei hun yn rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru. Gwrthodwn gael ein prisio allan o'n diwylliant ein hunain.
Rydym yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn rhestru Gemau'r Chwe Gwlad ar unwaith fel rhan o “Grŵp A” - digwyddiad sydd yn warantedig am ddim os gosodir tal ar wylio'r gemau.
Ychwanegwch eich llais at ein galw isod - mae rygbi Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru ac nid yw ar werth.
Gan lofnodi'r ddeiseb yma, rydych yn cytuno y gall Plaid Cymru recordio eich barn gwleidyddol a'i ddefnyddio ar gyfer ymgyrchu. Gwelwch ein polisi preifatrwydd yma.