Leanne Wood

Ymgeisydd Rhondda

Leanne Wood - Rhondda

Gwefan Facebook Twitter Instagram

Soniwch amdanoch eich hun

Rwyf o Benygraig, ac yno rwy’n byw o hyd. Gweithiais mewn gwahanol ffatrïoedd cyn dod yn swyddog prawf. Cefais fy ethol yn gynghorydd lleol i ward Penygraig pan oeddwn yn 25 oed. Bûm yn gweithio hefyd i Gymorth i Ferched, ac yn nes ymlaen, dod yn gadeirydd eu bwrdd rheoli.

Yn 2012, fi oedd y ferch gyntaf i ddod yn arweinydd Plaid Cymru.

Cefais fy symbylu i ymwneud â gwleidyddiaeth am fy mod yn gweld llawer o anghyfiawnder ac annhegwch, ac yr oeddwn eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch. Dyw hynny ddim wedi newid.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae adfer o bandemig Covid-19 trwy ail-adeiladu a buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth fawr. Rhaid i ni hefyd ymaddasu i newid hinsawdd yn ogystal â gwella ein safle economaidd, a mynd i’r afael ar yr un pryd ag anghydraddoldeb mewn twf. Rhaid blaenoriaethu hyn dros dymor nesaf y Senedd.

Yr ydym yn dal heb lawer o’r pwerau i roi atebion i’n problemau ac felly bydd ail-ddyblu ein hymdrechion i gael gafael ar yr arfau i wneud y gwaith yn hanfodol ar gyfer tymor nesaf y Senedd.

Beth wnewch chi dros Rhondda petaech yn cael eich ethol?

Os caf fy ail-ethol, fy mlaenoriaethau fydd gweithio gyda phawb i ail-godi’r economi lleol yn dilyn effaith yr argyfwng iechyd. Mae ar y Rhondda angen cynllun i ddatblygu’r economi a chreu swyddi - yn enwedig swyddi gwyrdd y bydd eu hangen yn y dyfodol. Byddaf hefyd yn parhau i frwydro dros ymchwiliad annibynnol i lifogydd a sut i liniaru’r argyfwng hinsawdd.