Lyn Ackerman

Ymgeisydd Torfaen

Lyn Ackerman - Torfaen

Facebook

Soniwch amdanoch eich hun

Mam i ddau o blant, a menyw ddosbarth gweithiol. Ganed ym Mhont-y-pŵl ac wedi byw yn y cymoedd drwy f’oes.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Petawn i’n cael fy ethol, buaswn yn canolbwyntio ar gynyddu gallu’r GIG. Mae Torfaen wedi croesawu’r Faenor ac y mae’n bwysig cael y lefelau staffio cywir yno. Bu Plaid Cymru yn galw am sicrhau nifer digonol o staff yno ers 2016. Daeth yn amlwg yn ystod llynedd fod trafferthion gyda lefelau staff. Dim ond Plaid Cymru sydd â chynllun concrid i hyfforddi a chadw staff yn lleol, gan gynnwys 5000 o nyrsys a 1000 yn fwy o feddygon ar hyd a lled Cymru.

Beth wnewch chi dros Dorfaen petaech yn cael eich ethol?

Mae effeithiau Covid i’w gweld ym mhobman yn Nhorfaen - nid yn unig o ran ein hiechyd, ond ein gobeithion am swyddi yn y tymor hir. Yn Nhorfaen, mae’r stryd fawr a’r swyddi ynddynt wedi eu taro’n galed wrth i gwmnïau amlwladol dynnu’n ôl. Mae cymaint wedi ei wario ar adfywio, ond mae’n bryd yn awr i bobl elwa o ran swyddi. Mae angen ail-feddwl am rôl y stryd fawr, boed hynny yn gefnogi busnesau annibynnol llai i ddefnyddio’r mannau gwag hynny, neu ystyried posibiliadau tai.

Rhaid i ni ofalu bod gan ein pobl ifanc y cyfle gorau i ddysgu, byw a gweithio yma. Un ffordd o ddenu gwaith tymor-hir i Dorfaen yw gwneud yr ardal yn gyrchfan o’r radd flaenaf i ymwelwyr: mae gennym rai o’r atyniadau ymwelwyr gorau, a golygfeydd ardderchog yn ne Cymru. Byddaf yn cefnogi pob cyfle i ddatblygu hyn.